Ar-lein, Mae'n arbed amser

2021, y flwyddyn y gwnaeth pobl ifanc greu hanes

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Chw 2021
IMG_3691

Fel rhan o ymgyrch unigryw i gofrestru i bleidleisio, mae grŵp o bedwar pobl ifanc wedi cael eu trawsnewid i edrych fel eu hunain yn y flwyddyn 2080 i fyfyrio am y flwyddyn y gwnaethon nhw newid y byd drwy gofrestru i bleidleisio yn ddim ond 16 oed am y tro cyntaf mewn hanes.

Mae'r ymgyrch wedi'i datblygu i annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio. Bydd y gyfres o fideos yn ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol mewn ymdrech i godi proffil y newid yn y gyfraith ac annog pobl ifanc i gofrestru cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Bydd y bobl ifanc 16 a 17 oed hynny sydd wedi'u cofrestru cyn mis Mawrth yn gallu cymryd rhan yn etholiad Cynulliad Cymru 2021 fel rhan o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Mae hwn yn newid mawr i'n democratiaeth yng Nghymru ac yn darparu miloedd o bleidleiswyr newydd gyda’r cyfle i ddweud eu dweud. Mae pleidleisio yn rhoi pŵer i bobl ifanc siarad am sut maen nhw'n teimlo ac i'w lleisiau gael ei glywed fel rhan o'r broses ddemocrataidd.

Yn y byd sydd ohoni, mae pleidleiswyr ifanc yn hollbwysig. Mae pobl ifanc yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn fwy nag erioed. Maen nhw’n sôn am wleidyddiaeth gyda ffrindiau, ar-lein ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r wybodaeth hon yn ei gwneud yn haws o lawer gwneud pleidlais wybodus.

Dywedodd Cain, aelod o Fforwm Ieuenctid Caerffili, "Waeth beth, mae pob pleidlais yn cyfrif ac felly mae'n bwysig pleidleisio."

Fel person ifanc, mae eich pleidlais yn bwysig. Os ydych chi'n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae'n gyflym ac yn hawdd a bydd yn sicrhau y byddwch chi'n gallu cymryd rhan yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

Y cyfan fydd ei angen arnoch chi yw 5 munud a'ch Rhif Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, os nad oes gennych eich Rhif Yswiriant Gwladol, gallwch chi ddal i gofrestru i bleidleisio. Ticiwch y blwch yn nodi nad ydych yn gwybod eich Rhif Yswiriant Gwladol a bydd Gwasanaethau Etholiadol Caerffili yn cysylltu â chi yn y dyfodol agos i gael prawf adnabod.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni