Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwedd newidiad £500,000 i Faes Carafanau Glynmil

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Meh 2022
Glynmil Ministerial visit May 22

Bu Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar ymweliad â Maes Carafanau Glynmil ym Merthyr Tudful er mwyn dysgu am gynlluniau i’w gwneud yn lleoliad ‘diogel a modern i fyw’.

Mae gwaith datblygu wedi dechrau yn dilyn y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn derbyn grant Cyfalaf Safle o dros £500,000 gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu pob un o’r 24 bloc mwynder ar y safle 8.3 acer sydd wedi bod yn safle ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ers 1977.

Cafodd y Gweinidog Jane Hutt AS ei thywys o amgylch y safle, gan weld y gwaith sydd wedi ei wneud ar y blociau sy’n cynnwys ystafelloedd ymolchi a cheginau.   

Cyfarfu hefyd gyda swyddogion o’r cylch Meithrin cyn- ysgol, y sefydliad celf gymunedol Head4Arts a menter Pride Boxing, sy’n rhedeg projectau addysgol a lles ar gyfer y preswylwyr a’u plant.

“Rydw i’n falch o weld bod y gwaith ar Safle Glynmil wedi cychwyn”, meddai Ms Hutt. “Rydw I hefyd yn falch o weld Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweithio gyda’r preswylwyr bob cam o’r ffordd er mwyn dod a gwasanaethau cynhwysol, gweithgareddau i blant a gwasanaethau sy’n arbed arian i’r safle.

“Bydd ein Cyllid ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn allweddol wrth gyrraedd  nod Cynllun Gweithredu Wrth Hiliol ac ymateb i’r diffyg darpariaeth a safon wael llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.”

Dwedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Adfywio a Thai'r Cynghorydd Geraint Thomas bod “ y cyllid yn creu cyfleusterau o safon uchel sy’n ynni effeithiol ar gyfer 24 llain, adnewyddu'r ganolfan gymunedol ac ail gynllunio'r ardaloedd gwyrdd.

“Mae’r Cyngor yn cyflogi rheolwr safle a warden sy’n by war y safle I sicrhau bod rhediad dydd I ddydd y safle yn cydymffurfio, ac yn le diogel I fyw.

“Y bwriad yw cynnig ffordd o fyw sy’n gweddu i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr o fewn y fwrdeistref sirol ac yn cefnogi lles y preswylwyr.”

Mae’r ailddatblygiad, sy’n cael ei gyflawni gan gwmni isadeiledd ac adeiladu Capita yn rhan o gynllun ehangach sydd bellach yng nghyfnod 2, y disgwylir ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2022.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni