Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gweledigaeth glir ar gyfer Addysg meddai Estyn

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 08 Maw 2022
Merthyr Tydfil CBC Logo

Ym mis Ionawr, derbyniodd yr awdurdod lleol arolwg o’r gwasanaethau addysg gan Estyn, yr arolygaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Yn yr arolwg a gyhoeddir heddiw, fe gydnabyddir y weledigaeth ar gyfer gwella addysg ym Merthyr Tudful. Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod bod gweithio mewn partneriaeth gydag adrannau gwahanol y Cyngor a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod y safonau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc mor gryf â phosib hefyd wedi eu cryfhau.

Dwedodd Y Prif Weithredwr, Ellis Cooper "bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o ble ydym nawr . Mae’n cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud i wella addysg ac yn cydnabod bod cynllun gennym er mwyn sicrhau nad ydy momentwm yn cael ei golli ac wrth symud o’r pandemig y bydd y momentwm hwn yn cynyddu. Ychwanegodd y Prif Swyddog Addysg, Sue Walker bod casgliadau’r adroddiad wedi dod trwy waith called pawb ac mae’n dda gweld hyn yn cael ei gydnabod."

Nododd y Cynghorydd. Lisa Mytton, arweinydd y cyngor a deilydd y portffolio addysg, "Mae addysg yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac rwy’n falch bod Estyn wedi cydnabod y gwaith caled sydd wedi digwydd yn ein hysgolion a gan adrannau'r cyngor er mwyn sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posib. Mae’r adroddiad yn cydnabod gwaith pawb sy’n rhan o addysg ym Merthyr Tudful ac mae’n bleser arbennig gweld gwaith ein timau blynyddoedd cynnar a gwasanaeth ieuenctid yn cael ei gydnabod gan ddangos bod addysg yn bwysig i bawb ac y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol ein plant a phobl ifanc. Da iawn bawb!"

 

Gallwch weld yr adroddiad yma: Merthyr Tydfil County Borough Council | Estyn (gov.wales)

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni