Ar-lein, Mae'n arbed amser
Neges gan Arweinydd y Cyngor ynglŷn â'r Redhouse
- Categorïau : Press Release
- 14 Ion 2026
Heddiw, dydd Mercher 14 Ionawr 2026, mewn cyfarfod y Cyngor Llawn, pleidleisiodd Cynghorwyr yn unfrydol i ddod â'r Redhouse yn ôl i berchnogaeth y Cyngor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter; "Rydym yn gwybod bod yr adeilad hanesyddol hwn yn bwysig iawn i gymaint ohonoch chi, felly rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddod â'r Redhouse yn ôl i berchnogaeth y Cyngor.
"Mae wedi bod yn flaenoriaeth i ni ers amser maith i weld y Redhouse yn dychwelyd i'r Cyngor, nod yr ydym wedi'i dilyn yn ddiwyd ac yn gyson ers dros flwyddyn, gan ddangos ein hymrwymiad diwyro i'w ddyfodol."
"Nawr bod hyn wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Llawn, gallwn ddechrau'r broses gyfreithiol o gymryd perchnogaeth swyddogol o'r adeilad.
"Rydyn ni'n credu bod hwn yn gam gwych ymlaen i'r Redhouse ac i'n bwrdeistref sirol. Byddwn yn eich diweddaru wrth i bethau fynd rhagddo."