Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gosodwyd dirwy o £2,000 ar Beiriannydd Gwresogi o Dde Cymru a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal i gwsmer o Ferthyr yn ogystal

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Ebr 2024
default.jpg

Gosodwyd dirwy o £2,000 ar Beiriannydd Gwresogi o Dde Cymru a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal i gwsmer o Ferthyr yn ogystal â thalu costau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi iddo bledio’n euog dros Fasnach Annheg mewn achos a ddygwyd i’r llys gan Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Ymddangosodd Mr Dafydd Emery gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ar yr 17eg o Ebrill 2024 am dair gwahanol drosedd dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr ar gyfer Masnachu Annheg yn cynnwys camarwain y cwsmer mewn perthynas â’i gofrestriad gyda HEATS. Plediodd Emery, sydd yn gyfarwyddwyr gyda Woodland Fuels Ltd a Stoves World Ltd, yn euog i’r cyhuddiadau a ddygwyd yn ei erbyn. 

Gorchmynnwyd Emery, o Donypandy, i dalu dirwy o £2,000, iawndal i gwsmer o £2,350 ac £800 o dâl ychwanegol a chostau’r erlyniad.

Derbyniodd Safonau Masnach gwynion ynghylch Emery yn Chwefror 2023. Dywedodd y cwsmer ei fod wedi talu miloedd o bunnoedd er mwyn i Emery osod ffwrn llosgi pren. Wedi i’r cwsmer ddod ar draws problemau gyda’r gwaith, darganfuwyd nad oedd EMERY wedi ei gofrestru gyda HEATS fel yr oedd wedi honni ac nid oedd y gwaith yn cyrraedd y gofynion diogelwch cyfreithiol. Darganfuwyd, drwy Safonau Masnach, nad oedd y gwaith papur a gyflwynwyd i’r cwsmer yn cydymffurfio gyda’r gofynion cyfreithiol o gyfnod canslo o 14 diwrnod.

Cynhaliwyd ymchwiliad gan Safonau Masnach gan ddefnyddio’r Rheoliadau Gwarchod Cwsmer Rhag Masnach Annheg ac arweiniodd hynny at Emery’n ymddangos gerbron y llys.

Dywedodd Craig Rushton, Arweinydd y Tîm Safonau Masnach:
“Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd y sawl sy’n masnachu’n dwyllodrus, gan niweidio ymddiriedaeth a hyder ein cymunedau mewn masnachwyr lleol, yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Cyn i breswylwyr gyflogi crefftwyr mewn unrhyw waith, fe’u hanogir i gynnal gwiriadau cefndir lle gallant wirio aelodaeth y masnachwyr o’r gymdeithas fasnach y maent yn honni eu bod yn aelod ohoni.

"Mae trigolion yn defnyddio aelodaeth o’r Gymdeithas Fasnach fel arwydd y byddant yn derbyn gwaith o safon gan y busnesau maent yn ymwneud a hwy.

"Lle nad yw hyn yn wir bydd ein Gwasanaeth Safonau Masnach yn ymchwilio, a dylai unrhyw fusnesau diegwyddor ddisgwyl ymweliad i’r Llys.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni