Ar-lein, Mae'n arbed amser
Wythnos tan y ffair swyddi
- Categorïau : Press Release
- 19 Ion 2023

Dim ond wythnos sydd i fynd tan ffair swyddi 2023 yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful ar Ionawr 26.
Bydd swyddi ar gael gan dros 20 o gyflogwyr mewn amrywiaeth o sectorau. Mae'r rhain yn cynnwys yr awdurdod lleol, cynhyrchu a chwmnïau peirianneg, adeiladu, masnach, gwasanaethau cwsmeriaid a darparwyr iechyd a gweithgareddau awyr agored.
Mae’r digwyddiad ‘Swydd newydd at y Gwanwyn’ wedi ei drefnu gan Dîm Cyflogadwyedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chanolfan Waith Merthyr Tudful yn cael ei gynnal rhwng 10am-1pm ym mhrif neuadd y Ganolfan Hamdden. Bydd partneriaid fel Coleg Merthyr Tudful a Gyrfaoedd Cymru hefyd yn bresennol.