Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ganolfan Gymunedol Aberfan
- Categorïau : Press Release
- 08 Maw 2024

Hoffem wneud y sefyllfa’n eglur a gwaredi ar rai o’r sïon sy’n cylchdroi ar hyn o bryd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn hyderus y bydd y gwasanaethau yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan yn parhau y tu hwnt i’r 1af o Ebrill 2024.
Dros y misoedd diwethaf mae’r cyngor wedi bod yn cydweithio â Lles Merthyr er mwyn dod â’r cytundeb presennol i ben mewn modd rheoledig.
Ein bwriad a’n blaenoriaeth yw cadw’r holl gyfleusterau hamdden ar agor, yn cynnwys Canolfan Gymunedol Aberfan.
Rydym wedi apwyntio darparwr arall sydd â phrofiad helaeth o fewn y diwydiant hamdden ac mae cyfarfodydd yn parhau er mwyn hwyluso trosglwyddiad y canolfannau hamdden.
Ymddiriedolaeth Aberfan sydd bia Canolfan Gymunedol Aberfan ac o ganlyniad rydym yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth drosglwyddo’r cyfleuster hwnnw i’r darparwr newydd, serch hynny rydym yn gweithio drwy’r rhwystrau hyn mor gyflym ag y gallwn.
Rydym wedi bod yn cydweithio gyda Lles Merthyr ac Ymddiriedolwyr Aberfan er mwyn sicrhau parhad di-dor i wasanaethau’r ganolfan.
Byddwn yn ymdrechu i roi diweddariadau i’n trigolion ni bob un wrth i bethau ddatblygu.