Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llwyth annormal yn teithio trwy Ferthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Ion 2024
Abnormal vehicle Jan 2024 (1)

Er mwyn cynorthwyo i gefnogi diogelwch ynni Prydain Fawr yn ystod y cyfnodau hynny pan fo’r galw am drydan yn ei anterth, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gosod nifer o orsafoedd ynni o amgylch y DU. Dewiswyd Gorsaf Ynni Hirwaun fel un o’r lleoliadau allweddol ac mae angen trawsgludo tair rhan bwysig o Ddociau Casnewydd i’r safle yn Hirwaun.

Mae’r tair rhan yn cynnwys tyrbin nwy, generadur a thrawsnewidydd. Bydd pob un rhan yn cael ei chludo dros dri phenwythnos yn olynol gan ddechrau’r wythnos hon, dydd Sul 14eg Ionawr. Mae cludo pob un o’r tair elfen yn her sylweddol o ganlyniad i’w maint a’u pwysau, a hefyd o achos materion logistaidd ar y cyd â chyfyngiadau mewn lleoliadau penodol bydd yn rhaid i’r cludiant deithio ar hyd ffyrdd Merthyr rhwng cylchfan Pentrebach a chylchfan Rhydycar yr A470. 

Bydd y cludiant yn pwyso dros 504-tunnell, bydd ei led yn 6.67m a bydd ganddo hyd anhyblyg o 57m a chyfanswm yr hyd fydd 78m. Bydd dwy lorri 44-tunnell yn gwthio ac yn tynnu ar bob pen a byddant yn teithio ar gyflymder o 5-10 milltir yr awr. Nid oes unrhyw amheuaeth mai dyma fydd y cludiant mwyaf sydd erioed wedi teithio trwy Ferthyr Tudful.

Rhwng yr oriau 11yh ddydd Sul 14eg Ionawr a 6yb ddydd llun 15fed Ionawr bydd y cyntaf o’r cludiannau hyn – y tyrbin nwy – yn teithio ar hyd yr A4054 rhwng cylchfan Pentrebach a chylchfan Caedraw ac yna ymlaen at yr A4102 tuag at gylchfan yr A470, Rhydycar.

Bydd system cau ffyrdd dreigl ar waith y noson honno, ac wrth iddo deithio bydd y cludiant yn cael ei hebrwng gan yr heddlu a bydd adrannau o’r ffordd yn cael eu hailagor cyn gynted a bod y cerbydau wedi gyrru heibio.

Bydd nifer o oleuadau traffig i gerddwyr, arwyddion ffyrdd a chelfi stryd eraill yn cael eu symud dros dro oherwydd bydd y cludiant yn gorhongian dros y llwybrau cerdded ar hyd y ffordd. Byddant yn cael eu gosod yn ôl yn eu lle pan fydd y broses o gludo wedi dod i ben.

Bydd parcio wedi ei wahardd ar hyd y ffyrdd hyn yn ystod y cyfnod hwn yn benodol ar Stryd Plymouth a bydd unrhyw geir sy’n parhau wedi parcio tra bod y cerbydau cludo ar eu taith yn cael eu symud gan yr heddlu.

Anfonwyd llythyron gan y cwmni cludo at y trigolion hynny fydd yn cael eu heffeithio gan y broses hon, y cwmni cludo sy’n gyfan gwbl gyfrifol am gludo’r tair rhan.

Bydd y system cau ffyrdd dreigl a’r cyfyngiadau parcio hefyd ar waith ddydd Sul 21ain a dydd Sul 28ain Ionawr er mwyn cludo’r generadur a’r trawsnewidydd.

Bydded hysbys y gellir gohirio’r cynlluniau hyn os ydy tymheredd y ffyrdd yn gostwng yn rhy isel. Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch p’un ai fydd y broses yn mynd yn ei blaen ai peidio, ac am wybodaeth ynghylch amseroedd gweler adran newyddion gwefan y Cyngor, a fydd yn cael ei adnewyddu ddydd Sul: https://www.merthyr.gov.uk/news-and-events/?lang=cy-GB&

 

**DIWEDDARIAD FEL @ 6PM DYDD SUL 14 IONAWR 2024**
Mae’r cerbyd wedi gadael Llan-ffwyst, ond oherwydd y tywydd bydd y cludiant yn stopio yn Nowlais heno a bydd y llwybr yn cael ei ail-asesu yfory.
Byddwn yn darparu diweddariad gan y cwmni cludo cyn gynted ag y bydd gennym un.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni