Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwobrau Dinasyddion Gweithredol a Chyfranogiad 2025
- Categorïau : Press Release
- 07 Gor 2025

Cynhaliodd Academi Llwyddiant Merthyr Tudful ei seremoni wobrwyo, Ddydd Iau 12 Mehefin 2025 yng Nghlwb Pêl-droed Merthyr Tudful. Mae'r gwobrau'n cydnabod llwyddiannau pobl ifanc, 11-25 oed a sefydliadau ledled Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid wedi ymrwymo i ddatblygu dinasyddion annibynnol a gweithgar ac mae'r gwobrau hyn yn ffordd wych o arddangos cyflawniadau pobl ifanc trwy gyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Agorwyd y digwyddiad gan y Maer, Paula Layton a'r siaradwr gwadd oedd Corey Shemwell, cyn-Gadeirydd Cabinet Ieuenctid Merthyr Tudful a ysbrydolodd y gynulleidfa gyda'i stori bersonol a'r effaith gadarnhaol y mae bod yn rhan o'r Cabinet Ieuenctid wedi'i chael ar ei hyder a'i ragolygon gyrfa.
Roedd aelodau o Gabinet Ieuenctid Merthyr Tudful hefyd yn bresennol. Roedd yr awyrgylch cyffrous achfawyd nosn ddi-dor gyda’r bobl ifanc yn mwynhau cynnal y digwyddiad hynod lwyddiannus hwn. Dywedodd y Maer Ieuenctid, Jacob Bridges: "Braint ac anrhydedd llwyr yw cael mynychu Gwobrau'r Academi Llwyddiant eleni a chlywed cymaint o straeon ysbrydoledig gan y bobl ifanc. Mae'n dangos bod gan Ferthyr Tudful genhedlaeth benderfynol, gweithgar ac anhygoel".
Derbyniodd trefnwyr y digwyddiad yn Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Gyfan Merthyr Tudful adborth cadarnhaol gydag un unigolyn yn nodi bod "cyfle gwerthfawr i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol gymryd rhan ochr yn ochr â'u cyfoedion", tra mynegodd un arall falchder o weld "amrywiaeth o sefydliadau yn derbyn gwobrau".
Mae'r gwobrau yn dathlu llwyddiant a chyflawniadau ein pobl ifanc sy'n gweithio'n galed. Nid yw llawer ohonynt yn cydnabod pa mor dalentog, ysbrydoledig a chefnogol ydynt.
Roedd cyfanswm o 12 gwobr ac roedd yr enillwyr fel a ganlyn:
- Cyflawnwr Ifanc y Flwyddyn – Cian Evans, Ysgol Maes Glas
- Darpariaeth y Flwyddyn – Sgowtiaid Merthyr Tudful
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn 11-16 – Jay Smart, Clwb Bechgyn a Merched Treharris
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn 17-25 – Laci Roberts, Darpariaeth Ieuenctid Merthyr valley Homes
- Dug Caeredin – Arweinydd Ifanc – Iwan Clarke, Sgowtiaid Merthyr Tudful a Deryn Allen-Dyer, Jiwdo O'Oshimeyo
- Gwirfoddolwr Rhagorol mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid – Callum Davies, Clwb Bechgyn a Merched Treharris
- Prosiect Grŵp: "Mynd i'r afael â materion personol a chymdeithasol sy'n effeithio ar bobl ifanc" – Youth Inc, Clwb Bechgyn a Merched Treharris
- Prosiect Grŵp: "Diwydiannau creadigol, celf, diwylliant a'r cyfryngau" – SL2 Dianc rhag y gorffennol, Ysgol Maes Glas
- Gwobr Chwaraeon Ieuenctid y Flwyddyn – Tîm Jiwdo Addasol, Jiwdo O'Oshimeyo
- Prosiect Eco y Flwyddyn – Pwyllgor Eco Ysgol Maes Glas, Ysgol Maes Glas
- Gwobr Arloesol Orau'r Flwyddyn – Bywyd Gwyllt yn y Gymuned, Ysbrydoli i Gyflawni
- Gwobr Defnydd Eithriadol o'r Gymraeg – Deryn Allen-Dyer, Yr URDD
Llongyfarchiadau i'r holl bobl ifanc a enwebwyd am wobr eleni. Dylech i gyd fod yn hynod falch o'ch gwaith caled a'ch ymrwymiad. Diolch o galon i bawb a fynychodd ac a gefnogodd yr Academi Llwyddiant eleni, yn ogystal â phawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.