Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diwrnod Shwmae/Su'mae llwyddiannus arall i Ferthyr Tudful!

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Hyd 2024
shwmae (1)

Mae'r digwyddiad Diwrnod Shwmae/Su'mae blynyddol wedi cael ei ystyried yn llwyddiant ysgubol, gyda digonedd o ymwelwyr yn bresennol ddydd Sadwrn Hydref 12fed.

Fe welodd Merthyr Tudful gynnydd sylweddol hefyd yn nifer yr ymwelwyr o amgylch canol y dref, wedi i'r digwyddiad gael ei gynnal yn Sgwâr Penderyn am y tro cyntaf eleni.

Fel rhan o'r dathliadau, perfformiodd Ysgol Caedraw, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug, Ysgol Gynradd Abercanaid, Ysgol Gynradd Dowlais, Ysgol Gynradd Gwaunfarren, Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Ysgol Gynradd Gellifaelog ac Ysgol-y-Graig  gydag amrywiaeth o eitemau cerddorol.

Fe wnaeth perfformiad cerddorol Cymraeg Angharad Rhiannon hefyd adael argraff ar bawb a'i gwyliodd yn y prynhawn. Cafodd aelodau'r cyhoedd eu syfrdanu'n llwyr gan ei dawn a'i chelfyddyd.

Dywedodd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg:
 "Roedd y digwyddiad yn gyfle anhygoel i arddangos defnydd o'r Gymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol. Roedd yn gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd a dathlu harddwch a chyfoeth yr iaith Gymraeg."

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet ar faterion Addysg:
"Cawsom gymaint o weithgareddau a pherfformiadau anhygoel a oedd yn amlygu pwysigrwydd cadw'r iaith yn fyw ac yn ffynnu yn ein cymuned. Gobeithiwn y bydd pawb a fynychodd  yn teimlo eu bod wedi eu hysbrydoli ac yn falch o'r dreftadaeth ieithyddol unigryw sydd gennym yma. Dwi methu aros am y digwyddiad nesaf!"

 Gyda diolch i'r holl fusnesau anhygoel a oedd yn bresennol:

Amanda Smith Gwneud Balwn a Phaentio Wyneb

Joelyn Bisp

Amanda Thomas

Joseph Morgan

Anest Owen

Dysgu Cymraeg Morgannwg

Anrhegion Eli Mai

Cacennau Cymraeg Lily Wen

Beth Bayley

Llawn Cariad

Cana Canhwyllau

Coleg Merthyr

Cariad Melysion

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Apothecari Castell

Mudiad Meithrin

Claire Hiett

RhAg

Ysgolion Ffocws Cymunedol

Melysion Ystafell Goch

Cwyr Cain

Rhian James

Creadigaethau Cymraeg

Rhian Mair Lewis

Cymraeg i Blant

Rhyd

Dyluniadau Dotty

Shan Croft

Dysgu Cymraeg Morgannwg

Sion Tomos Owen

Elena Jones

Siop Soar & Menter Iaith Merthyr Tudful

Ellen Davies

Stwff

Gofal Maeth Cymru

Tamara Williams

Fframio

Cwmni Crepe Gŵyr

GM Notepads

URDD

Gower Fudge

Oes Cymru

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni