Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diwrnod Shwmae/Su'mae llwyddiannus arall i Ferthyr Tudful!
- Categorïau : Press Release
- 15 Hyd 2024
Mae'r digwyddiad Diwrnod Shwmae/Su'mae blynyddol wedi cael ei ystyried yn llwyddiant ysgubol, gyda digonedd o ymwelwyr yn bresennol ddydd Sadwrn Hydref 12fed.
Fe welodd Merthyr Tudful gynnydd sylweddol hefyd yn nifer yr ymwelwyr o amgylch canol y dref, wedi i'r digwyddiad gael ei gynnal yn Sgwâr Penderyn am y tro cyntaf eleni.
Fel rhan o'r dathliadau, perfformiodd Ysgol Caedraw, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug, Ysgol Gynradd Abercanaid, Ysgol Gynradd Dowlais, Ysgol Gynradd Gwaunfarren, Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Ysgol Gynradd Gellifaelog ac Ysgol-y-Graig gydag amrywiaeth o eitemau cerddorol.
Fe wnaeth perfformiad cerddorol Cymraeg Angharad Rhiannon hefyd adael argraff ar bawb a'i gwyliodd yn y prynhawn. Cafodd aelodau'r cyhoedd eu syfrdanu'n llwyr gan ei dawn a'i chelfyddyd.
Dywedodd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg:
"Roedd y digwyddiad yn gyfle anhygoel i arddangos defnydd o'r Gymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol. Roedd yn gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd a dathlu harddwch a chyfoeth yr iaith Gymraeg."
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet ar faterion Addysg:
"Cawsom gymaint o weithgareddau a pherfformiadau anhygoel a oedd yn amlygu pwysigrwydd cadw'r iaith yn fyw ac yn ffynnu yn ein cymuned. Gobeithiwn y bydd pawb a fynychodd yn teimlo eu bod wedi eu hysbrydoli ac yn falch o'r dreftadaeth ieithyddol unigryw sydd gennym yma. Dwi methu aros am y digwyddiad nesaf!"
Gyda diolch i'r holl fusnesau anhygoel a oedd yn bresennol:
|
Amanda Smith Gwneud Balwn a Phaentio Wyneb |
Joelyn Bisp |
|
Amanda Thomas |
Joseph Morgan |
|
Anest Owen |
Dysgu Cymraeg Morgannwg |
|
Anrhegion Eli Mai |
Cacennau Cymraeg Lily Wen |
|
Beth Bayley |
Llawn Cariad |
|
Cana Canhwyllau |
Coleg Merthyr |
|
Cariad Melysion |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
|
Apothecari Castell |
Mudiad Meithrin |
|
Claire Hiett |
RhAg |
|
Ysgolion Ffocws Cymunedol |
Melysion Ystafell Goch |
|
Cwyr Cain |
Rhian James |
|
Creadigaethau Cymraeg |
Rhian Mair Lewis |
|
Cymraeg i Blant |
Rhyd |
|
Dyluniadau Dotty |
Shan Croft |
|
Dysgu Cymraeg Morgannwg |
Sion Tomos Owen |
|
Elena Jones |
Siop Soar & Menter Iaith Merthyr Tudful |
|
Ellen Davies |
Stwff |
|
Gofal Maeth Cymru |
Tamara Williams |
|
Fframio |
Cwmni Crepe Gŵyr |
|
GM Notepads |
URDD |
|
Gower Fudge |
Oes Cymru |