Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ydych chi'n ymwybodol o'r gyfraith ar E-Sgwteri?
- Categorïau : Press Release
- 26 Tach 2025
Gyda'r Nadolig yn agosáu, ac e-sgwteri yn ymddangos ar nifer o restrau siopa, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru am sicrhau bod pawb yn deall y gyfraith a'r risgiau diogelwch.
Prif bwyntiau y dylech eu gwybod cyn prynu:
- Efallai fod e-sgwteri yn edrych yn hwyl ac yn ecogyfeillgar, ond ni ellir reidio e-sgwteri preifat yn gyfreithlon mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys ffyrdd, palmentydd, parciau a mannau cyhoeddus eraill. Dim ond ar dir preifat y gellir eu defnyddi a dim ond â chaniatâd y tirfeddiannwr.
- Nid oes treialon rhenti e-sgwteri cymeradwy yng Nghymru (yn wahanol i rai rhannau o Loegr).
- Oherwydd bod e-sgwteri yn cael eu dosbarthu fel cerbydau modur, gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn eu defnyddio mewn man cyhoeddus wynebu:
- Dirwy o hyd at £300 am beidio â chael yswiriant
- Chwe phwynt cosb ar eu trwydded yrru (gellir ychwanegu'r rhain yn nes ymlaen, hyd yn oed os nad oes gan y beiciwr drwydded eto)
- Yr e-sgwter yn cael ei atafaelu gan yr heddlu
- Gall troseddau eraill hefyd fod yn berthnasol, fel eu defnyddio ar y palmant neu ddefnyddio ffôn symudol wrth reidio.
Y brif neges:
Peidiwch â phrynu na gofyn am e-sgwter fel anrheg Nadolig oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio yn gyfreithlon ac yn ddiogel ar dir preifat yn unig. Yn syml, nid yw' werth y risg – yn gyfreithiol, ariannol a phersonol.
Diolch am atgyfnerthu'r neges hon gartref a'n helpu i gadw’n plant a'n cymuned yn ddiogel.