Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trefniadau ar gyfer Diwrnod Cyhoeddi ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Medi 2022
QueenElizabethII

Ddydd Sul yma, 11eg Medi 2022, cynhelir Diwrnod Cyhoeddi am 1:30pm y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful.

Bydd y Cyhoeddiad yn cael ei ddarllen gan yr Uchel Siryf, ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Maer Merthyr Tudful ac Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu’r digwyddiad drwy ymgynnull yn y cwrt blaen y tu allan i flaen y Ganolfan Ddinesig

Mae baneri ar draws y Fwrdeistref Sirol yn chwifio ar hanner mast heddiw, a byddant yn cael eu codi i fast llawn yfory (dydd Sadwrn 10 Medi) am 11am ar gyfer y Cyhoeddiad Cenedlaethol yn Llundain.

Fe fyddan nhw’n dychwelyd i hanner mast am 2.45pm ddydd Sul (11 Medi) ar ôl i’r Cyhoeddiad gael ei ddarllen ar goedd yn lleol, a byddan nhw’n aros ar hanner mast tan 8am y diwrnod ar ôl angladd Ei Mawrhydi’r Frenhines.

Nodyn i'ch atgoffa y gellir gosod teyrngedau blodau o dan y polion fflag o flaen y Ganolfan Ddinesig.

Bydd llyfr cydymdeimlad y Cyngor ar gael i’w arwyddo 10:00yb – 4:00yp dydd Sul yma yn y Ganolfan Ddinesig.

Bydd y Llyfr Cydymdeimlad yn Llyfrgell Gymunedol Aberfan ar gael ar dydd Sul o 12pm - 2pm, i nodi Cyhoeddiad Lleol y Brenin Siarl III.

Mae llyfr cydymdeimlad electronig hefyd wedi’i agor ar y wefan Frenhinol: royal.uk/send-message-condolence

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni