Ar-lein, Mae'n arbed amser
Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn
- Categorïau : Press Release
- 19 Tach 2025
Does neb am i’r Nadolig gael ei ddifetha. Bydd y cyngor canlynol gan Diogelwch Ffyrdd Cymru yn eich helpu i osgoi prynu anrheg allai gael ei hatafaelu gan yr Heddlu ac arwain at ddirwy a phwyntiau cosb i’r defnyddiwr.
Cyn prynu, cofiwch: yng Nghymru dim ond gyda chaniatâd y tirfeddiannwr y cewch chi reidio e-sgwteri yn gyfreithlon ar dir preifat.
Esboniodd Rhys John-Howes, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: “Mae reidio e-sgwter ar y briffordd, y palmant, neu ar lonydd beicio yng Nghymru yn anghyfreithlon. Does dim cynlluniau rhentu ar waith yng Nghymru, felly mae unrhyw un sy’n defnyddio e-sgwter fel hyn yn torri’r gyfraith.
“Mae unrhyw un sy’n ystyried e-sgwter fel anrheg angen i’r beiciwr fod â mynediad i dir preifat a chaniatâd i’w reidio yno.
“Mae prynu e-sgwter yn debygol o fod yn gamgymeriad drud y dylai teuluoedd ei osgoi ar bob cyfri.”
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru hefyd yn gofyn i’r cyhoedd sicrhau, os ydyn nhw’n bwriadu prynu e-feic (beic pedal â chymorth trydan/EAPC) ei fod yn gyfreithlon ar y ffordd; os nad yw, fe allai’r beicwyr wynebu camau gan yr Heddlu a chael y beic wedi’i atafaelu a’i falu.
Er mwyn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ar y ffordd, rhaid i e-feic fod ag allbwn pŵer o 250 watt ar y mwyaf ac ni ddylai allu gyrru’r beic pan fo’n mynd ar fwy na 15.5mya. Os yw modur y beic yn mynd yn gyflymach na hyn, neu os nad oes angen ei bedlo, byddwch yn ymwybodol nad yw’n gyfreithlon ar y ffordd a’i fod yn cael ei ddosbarthu fel beic modur.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i feiciau modur gael eu cofrestru, eu trethu a’u hyswirio; rhaid i’r beiciwr feddu ar y drwydded yrru addas a gwisgo helmed damwain.
Ychwanegodd Kayleigh Tonkins, Is-gadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, “Dylai unrhyw un sy’n meddwl prynu e-feic ymchwilio’n ofalus cyn gwario’u harian prin.
“Rhaid i feicwyr fod yn 14 oed o leiaf a defnyddio’r e-feic fel unrhyw feic safonol, fel yr amlinellir yn Rheolau’r Ffordd Fawr”.
Mae cymunedau ledled Cymru wedi wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyrru’n beryglus ar feiciau trydan wedi’u haddasu a beiciau trydan, beiciau modur trydan, beiciau modur oddi ar y ffordd, ac e-sgwteri anghyfreithlon. Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cefnogi’n cydweithwyr yn yr Heddlu yn llawn i atafaelu cerbydau sy’n cael eu reidio’n anghyfreithlon ac erlyn beicwyr sy’n peryglu eu hunain ac aelodau o’r cyhoedd.
Dywedodd yr Arolygydd yn Heddlu Dyfed-Powys, Dawn Fencott-Price, “Rydyn ni’n annog pawb i feddwl ddwywaith cyn prynu sgwteri electronig ar gyfer y Nadolig gan fentro mynd yn groes i’r gyfraith. Rydyn ni’n deall y gall e-sgwteri ymddangos fel syniad hwyliog a chyffrous am anrheg, ond mae’n bwysig deall y rheolau a’r risgiau sy’n dod gyda nhw.
“Mae e-sgwteri preifat yn anghyfreithlon i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd, neu lwybrau beicio. Gall eu cyflymder a’u distawrwydd greu perygl sylweddol i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac i ddiogelwch cerddwyr, yn enwedig cerddwyr sy’n agored i niwed.
“Mae llawer o bobl yn anymwybodol o’r cyfyngiadau ar e-sgwteri ac er y gallai manwerthwyr fod yn hapus i werthu un i chi, fe allai gael ei atafaelu yr eiliad y byddwch chi’n ceisio’i ddefnyddio mewn man cyhoeddus”.
Peidiwch â chael eich dal trwy reidio’n anghyfreithlon. Gofalwch eich bod yn gwybod y gyfraith ar e-feiciau ac e-sgwteri.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.diogelwchffyrddcymru.org.uk