Ar-lein, Mae'n arbed amser
Baneri ar fysus - dewiswch addysg Gymraeg!
- Categorïau : Press Release
- 24 Chw 2025

Mae Partneriaeth ‘Cymraeg i Bawb’ wedi lansio ymgyrch hybu addysg Gymraeg sy’n cynnwys baneri tu allan i ysgolion a fideos byrion a bellach am y mis nesaf mae’r neges hefyd i’w gweld ar gefn bysus er mwyn annog pobl o bob cefndir i ddewis addysg Gymraeg i’w plant:
‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob plentyn: Dewiswch addysg Gymraeg.’
Mae Cymraeg i Bawb yn bartneriaeth rhwng 21 sefydliad; Awdurdodau Lleol, Mentrau Iaith lleol, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin a Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn ardal De-ddwyrain Cymru mewn prosiect arloesol a ariannir gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Daeth y bartneriaeth ynghyd o sylweddoli'r angen i allu gweithredu’n rhanbarthol er mwyn estyn allan at bobl sy’n newydd i’r Gymraeg a’u croesawu at addysg Gymraeg er mwyn i bob plentyn cael y cyfle i fod yn ddwyieithog, neu’n amlieithog, drwy’r system addysg.
Dwedodd Ffion Gruffudd, Cadeirydd Bwrdd y Bartneriaeth a Phennaeth Caerdydd Ddwyieithog yng Nghyngor Caerdydd,
‘Cryfder y bartneriaeth ranbarthol hon yw ein bod yn gallu rhannu adnoddau, syniadau ac arfer da; mae aelodau’r bartneriaeth yn grediniol dros addysg Gymraeg ac yn frwd i ddenu mwy o bobl o bob cefndir at addysg Gymraeg.’
‘Mae’r bartneriaeth am i bob rhiant wybod taw addysg Gymraeg yw’r ffordd orau i sicrhau bod eich plentyn yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog, yn hollol rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd a bod plant o bob cefndir ieithyddol yn ffynnu mewn addysg Gymraeg. Ac mae rhannu’r neges hon ar gefn bysus y rhanbarth ac ar faneri tu allan i bob ysgol Gymraeg yn y De-ddwyrain ymhlith yr amryw ffyrdd mae’r bartneriaeth wrthi’n rhannu’r neges bwysig hon.’
Mae gan bob awdurdod lleol darged i dyfu addysg Gymraeg a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mynychu ysgol Gymraeg yw’r ffordd orau i blentyn ddod yn siaradwr hapus a hyderus sy’n defnyddio’r iaith gyda’i ffrindiau yn yr ysgol a chael y profiad ‘Cymraeg’ llawn, cyfle efallai na chafodd cenedlaethau blaenorol y teulu.
Dwedodd Llio Elgar, Pencampwr Hybu Addysg Gymraeg Rhanbarthol,
‘Gyda dros 80 ysgol Gymraeg yn y rhanbarth, o Langynwyd i Drefynwy, mae ‘na le i bob plentyn mewn ysgol Gymraeg. Mae eich ysgolion lleol yn awyddus i chi gysylltu am sgwrs neu i ymweld â nhw, mae cynnwys pob plentyn a phob teulu yn holl bwysig i ni.’
‘Mae’r ysgolion a sefydliadau fel Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin, y Mentrau Iaith, yr Urdd ag ati’n cynnig cyfoeth o ddigwyddiadau Cymraeg a dwyieithog y tu allan i’r ysgol fel eich bod chi a’ch plant yn rhan naturiol o’r gymuned Gymraeg.’
Nid yw mwyafrif helaeth y rhieni a’r gofalwyr plant yn y rhanbarth sy’n mynd â’u plant i ysgol Gymraeg leol yn siarad Cymraeg gartref felly mae popeth y bydd ysgolion Cymraeg yn eu cynllunio ar gyfer rhieni - gwaith cartref, cylchlythyron ac ati - ar gael yn y ddwy iaith. Mae’r ysgolion yn arbenigo ar addysgu’n Gymraeg o’r diwrnod cyntaf. Dyma pam fod y baneri yn dweud ‘Mae plant yn mwynhau dysgu Cymraeg a Saesneg gyda’u ffrindiau yn yr ysgol.’
Ac os yw plentyn eisoes mewn ysgol arall, mae pob awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth i hwyr ddyfodiaid fanteisio ar addysg Gymraeg. Pan fydd plentyn yn symud i ysgol Gymraeg, bydd y plant yn cael cefnogaeth ddwys am dymor neu ddau nes eu bod yn barod i dreulio’r diwrnod llawn yn eu hysgol Gymraeg newydd. Dyw hi fyth yn rhy hwyr i’ch plentyn droi at addysg Gymraeg!