Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arddangosfa Brwydr Prydain yn dod i Ferthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 05 Hyd 2022

Mae arddangosfa yn dweud hanes cyfraniad Cymru i’r frwydr awyr fwyaf i gael ei chofnodi yn dod i Ferthyr Tudful yr Hydref hwn.
Crëwyd arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yn 2020 gan Gangen Hanesyddol Awyr y RAF i ddathlu 80fed pen-blwydd Brwydr Prydain.
Oherwydd COVID-19, nid oedd yn bosib i’r daith ddigwydd, ond nawr, ddwy flynedd ar ôl yr 80fed pen-blwydd, mae’n digwydd. Mae’r arddangosfa yn teithio Cymru a bydd yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful rhwng dydd Llun Hydref 17 a dydd Gwener Hydref 21. Mae mynediad am ddim.
Dwedodd y Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, a helpodd greu'r arddangosfa: “Brwydr Prydain oedd y frwydr awyr fwyaf i gael ei chofnodi ac roedd yn foment ble roedd Prydain wedi sefyll yn erbyn grym milwrol Hitler a ymddangosai yn amhosibl ei rwystro.
“Mae’r arddangosfa yn dweud hanes a fydd yn galluogi pobl o bob oed ddod i ddysgu mwy am yr hyn ddigwyddodd yn yr awyr ac ar y llawr yn ystod y rhyfel. Mae’n ffocysu yn unigryw ar y criwiau awyr Cymreig a ymladdodd gan ddweud eu hanes arwrol i gynulleidfa Gymreig fodern.
“Trwy ymweld â’r arddangosfa, gall unigolion dalu teyrnged i’r ‘Cymry a Gwympodd’ ac i rheiny a ddychwelodd maes o law at eu teuluoedd. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu'r amrywiol ffyrdd y cyfrannodd cymunedau a phobl Cymru i’r ymdrech ryfel yn ystod Brwydr Prydain.”
Dwedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Dwi’n falch bod Merthyr Tudful yn cynnal yr arddangosfa bwysig hon. Bydd yn gyfle i bobl nodi Brwydr Prydain, a thalu gwrogaeth i’r rhai a gollodd eu bywyd a dysgu am gyfraniad pobl a chymunedau Cymru yn y digwyddiad hanesyddol.”
Dwedodd eiriolwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Andrew Barry: “Mae gan Ferthyr Tudful garfan gref o gyn milwyr, milwyr wrth gefn a lluoedd sy’n gwasanaethu a thraddodiad balch o’u cefnogi trwy ein Cyfamod Lluoedd Arfog.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i sicrhau nad ydym yn anghofio am y cyn milwyr a’r ymadawedig o ddau Ryfel Byd a gwrthdaro byd eang eraill, na’r rhai sy’n gwasanaethu nawr, am eu cyfraniad sy’n parhau.”
Dwedodd Jane Sellwood Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful: “Rydyn ni yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful yn falch o gael ein dewis fel lleoliad yr arddangosfa hon ac yn falch i helpu dathlu cyfraniad y rhai a wasanaethodd ym Mrwydr Prydain a thalu parch i Gymuned y Lluoedd Arfog.”
- Bydd Maer Merthyr Tydfil y Cynghorydd Declan Sammon yn ymuno gyda chynrychiolwyr milwrol i ddathlu agoriad yr arddangosfa yn swyddogol am 2pm, Hydref 17.