Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arddangosfa Brwydr Prydain yn agor yn y llyfrgell
- Categorïau : Press Release
- 18 Hyd 2022

Mae arddangosfa deithiol sydd yn adrodd hanes cyfranogiad Cymru ym Mrwydr Prydain wedi agor ddoe (17 Hydref) yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful.
Cafodd Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain ei chreu gan Gangen Hanesyddol yr RAF er mwyn coffau 80 o flynyddoedd ers y digwyddiad yn 2020. Mae’r arddangosfa ar daith yng Nghymru a bydd yn y llyfrgell hyd Ddydd Gwener (21 Hydref.) Mae’r mynediad am ddim.
Cafodd yr arddangosfa ei hagor gan y Maer, y Cynghorydd Declan Sammon ac roedd y Swyddog Awyr, Adrian Williams, Dirprwy Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Alyn Owen, Uwch Siryf Morgannwg Ganol, Maria Thomas, Eiriolydd Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Barry a Chynghorwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau cynfilwrol yn bresennol.