Ar-lein, Mae'n arbed amser

BillyChip yn darparu gobaith a charedigrwydd i’r rheini sydd ei angen fwyaf ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Medi 2023
BillyChip

Caffi’r Hideout yw’r busnes lleol cyntaf ym Merthyr Tudful i ymuno â chynllun unigryw, BillyChip sydd yn cynorthwyo’r rheini sydd fwyaf ei angen yng nghanol y dref.  

Mae’r cynllun yn dymchwel rhwystrau ac yn cynnig ffordd ddiogel i gyfrannu i’r rheini sydd yn cysgu yn yr awyr agored neu sydd yn ddigartref heb boeni y gallai’r arian gael ei ddefnyddio i brynu alcohol neu gyffuriau.

Gall aelod o’r cyhoedd brynu tocyn BillyChip, gwerth £2 o siop neu fusnes sydd yn cyfranogi yn y cynllun, fel siop goffi. Gallant gadw’r tocyn yn ddiogel a’i roi i berson anghenus. Gall y sawl sydd yn derbyn y tocyn ei ddefnyddio er mwyn prynu diod neu fyrbryd yn un o’r busnesau sydd yn rhan o’r cynllun.

Dywedodd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor:
“Rwy’n falch fod busnesau lleol ym Merthyr Tudful yn cydnabod pwysigrwydd cynllun BillyChip ac yn ymuno â’r cynllun dyfeisgar hwn a fydd yn cynnig ffordd ddiogel a hawdd i aelodau’n cymuned allu cynorthwyo’r sawl sydd mewn angen.

“Os hoffech gynorthwyo, byddwn yn eich annog i brynu tocyn BillyChip a’i roi i berson anghenus, yn hytrach na rhoi arian gan y gall y tocyn gael ei ddefnyddio’n ddiogel mewn lleoliadau fel Hideout er mwyn prynu diod boeth neu fyrbryd.”  


Dywedodd Michelle Symonds, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd:
“Rwy’n ddiolchgar i Gaffi Hideout am arwain y ffordd ym Merthyr Tudful ac rwy’n annog lleoliadau bwyd eraill i ystyried gwneud yr un fath; dangos caredigrwydd i eraill, drwy’r dref.”  


Mae’r cynllun yn un unigryw, gafodd ei sefydlu, er cof am Billy Abernethy-Hope; gyrrwr ambiwlans, 20 mlwydd oed a fu farw yn 20018. Breuddwyd Billy oedd annog haelioni ymhlith y rheini sydd yn gyndyn i gyfrannu arian i’r digartref. Bu farw Billy cyn iddo weld ffrwyth ei lafur ond mae ei deulu wedi parhau i wireddu ei ddyhead. 

Dywedodd Natasha Price, perchennog Hideout;
“Daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful atom a gofyn i ni gyfranogi yng Nghynllun BillyChip. Roedd yn syniad neilltuol ac yn rhywbeth yr oeddem am fod yn rhan ohono.  
“Mae’n wych i’r gymuned allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r digartref a hynny heb boeni am roi arian yn uniongyrchol gan wybod eu bod yn rhoi rhodd o fwyd neu ddiod peth trwy’r tocyn BillyChip. Mae’n wych i’n cymuned.”


Rhagor o wybodaeth: Homepage (billychip.com)

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni