Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dod a Casa Bianca i Ferthyr Tudful - ein rôl yn y Cyngor
- Categorïau : Press Release
- 24 Tach 2022

Mae Siambrau Milbourne yn adeilad amlwg yng nghanol tref Merthyr Tudful- gyda'i gloc a’i leoliad canolig.
Mae sawl preswylydd wedi bod i’r adeilad dros y blynyddoedd, a bydd y bennod nesaf yn agor cyn bo hir- gyda dyfodiad y bwyty Eidalaidd, Casa Bianca; y lle bwyta cyntaf ar y safle.
Mae’r fenter yn bosib trwy fuddsoddiad gan gynllun Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru - a gyflwynwyd mewn cydweithrediad gyda thîm adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a buddsoddiad perchennog y busnes.
Mae’r gronfa Creu Lleoedd yn cynorthwyo ymgeiswyr i wella eu heiddo trwy gynnig y cyfle i wella ymddangosiad yr adeilad a gwaith perthnasol allanol a thu fewn. Bwriad y gronfa yw gwella ymddangosiad adeiladau a dod ac adeiladau gwag yn rhai sy’n fusnesau llewyrchus.
Cysylltodd Andreas Christou, yn wreiddiol gyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 18 mis yn ôl - er mwyn archwilio’r posibilrwydd o ddod a bwyty i Ferthyr Tudful. Roedd ei ddau fwyty yn y Fenni a Threfynwy yn ffynnu a gyda chymaint o’i gwsmeriaid yn teithio o Ferthyr Tudful, gwelodd Andreas gyfle i’r busnes i ehangu.
Nid yn unig fydd yr agoriad yn dod a busnes a chadw pobl ym Merthyr Tudful - wrth chwilio am leoliad am ddathliad arbennig neu bryd fel teulu er enghraifft - ond bydd yn denu buddsoddiad, gan helpu pobl fusnes eraill i weld Merthyr Tudful fell le atyniadol i fuddsoddi ynddo.
Trwy waith called a chefnogaeth tîm adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, dyfarnwyd y cyllid mwyaf posib i Andreas o gynllun Creu Lleoedd 2021-22.
Mae perchennog yr eiddo wedi gweithio’n agos gydag Andreas a’i dim o ddatblygwyr er mwyn gwireddu Casa Bianca.