Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datganiad cyllideb yn dilyn 5.3.25 cyfarfod o'r Cyngor Llawn
- Categorïau : Press Release
- 05 Maw 2025

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor heno cymeradwyodd yr aelodau etholedig Gofyniad y Gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o 5.5% yn Nhreth y Cyngor i breswylwyr Merthyr Tudful.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Anna Williams-Price, yr Aelod Cabinet dros Lywodraethu ac Adnoddau: "Ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, rydym yn cynnig gofyniad cyllidebol o £172.513 miliwn, sy'n sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, mae sicrhau cyllideb gytbwys wedi gofyn am benderfyniadau anodd, cynllunio strategol, a ffocws ar effeithlonrwydd.
"Rydym yn wynebu galw cynyddol ar draws holl gyfarwyddiaethau yr awdurdod lleol gyda rhai ardaloedd yn profi angen dwys, megis darpariaethau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, digartrefedd a gofal cymdeithasol.
"Yn y cyfamser, bydd y cynnig Treth Gyngor hwn a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn yn ein galluogi i ddarparu mwy o gyllidebau mewn meysydd blaenoriaeth i breswylwyr:
Addysg: Cynnydd yn y gyllideb addysg i £68.599 miliwn gan sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid angenrheidiol i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.
"Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd i £51.448 miliwn, gan fynd i'r afael â'r galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol oedolion a phlant.
"Mae'r gyllideb hon wedi'i strwythuro'n ofalus i flaenoriaethu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol, sy’n cyd-fynd ag adborth ymgynghoriad cyhoeddus."