Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datganiad o'r Gyllideb yn dilyn Cyfarfod Llawn y Cyngor
- Categorïau : Press Release
- 23 Chw 2026
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn heno, cymeradwyodd aelodau etholedig gyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27. Pleidleisiodd cynghorwyr i flaenoriaethu cyllidebau ysgolion, diogelu gofal cymdeithasol plant ac oedolion hanfodol a chryfhau cymorth digartrefedd, ymhlith llawer o bethau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Roedd yn bwysig i ni gynnal darpariaeth gwasanaethau tra'n cadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i'r lleiafswm, sef yr adborth a gawsom o ymgynghoriad cyllideb eleni. Rydyn ni wedi gwrando ac rydyn ni'n teimlo bod y gyllideb hon yn adlewyrchu'r farn honno.
"Rydym wedi dyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth ADY mewn ysgolion ac rydym yn diogelu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol hanfodol. Rydym yn buddsoddi mewn gwelliannau priffyrdd, meysydd chwarae, caeau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn asedau allweddol, fel Castell Cyfarthfa a Redhouse.
"Rydym yn Gyngor sy'n gwrando ac yn rhoi anghenion ein trigolion yn gyntaf."
Dywedodd y Cynghorydd Anna Williams-Price, Aelod Cabinet dros Gynaliadwyedd Ariannol, Asedau a Masnach: "Eleni, mae'r Cyngor wedi cydbwyso'r gyllideb heb fynd i'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol; cam mawr tuag at sefydlogrwydd ariannol hirdymor.
"Nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gynaliadwy, mae'n creu bylchau mewn cyllidebau yn y dyfodol, gan arwain at benderfyniadau anoddach yn ddiweddarach.
"Mae sefyllfa ariannol gryfach o fudd i'r gymuned gyfan. Trwy beidio â dibynnu ar gronfeydd wrth gefn eleni, mae'r Cyngor yn diogelu cyllid y dyfodol ac yn osgoi trosglwyddo pwysau heddiw ar genedlaethau'r dyfodol."
Mae'r gyllideb hon yn cynnwys cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor ar gyfer trigolion Merthyr Tudful, sydd ychydig yn is na'r cynnydd disgwyliedig o 5% yng nghynllun ariannol tymor canol y Cyngor. Mae hyn yn golygu y bydd aelwyd Band A yn talu £1.32 ychwanegol yr wythnos, bydd aelwyd Band B yn talu £1.54 ychwanegol yr wythnos, a bydd aelwyd Band C yn talu £1.76 ychwanegol yr wythnos (Noder: mae 84% o drigolion ym Merthyr Tudful yn byw mewn eiddo Band A i C).