Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Gyfnewidfa Fysiau ar restr fer am wobrau adeiladu cenedlaethol o fri

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Gor 2021
Bus station opening

Mae gobaith y bydd y Gyfnewidfa Fysiau arloesol newydd ym Merthyr Tudful yn ennill dwy wobr adeiladu genedlaethol, fis yn unig ar ôl ei hagor.

Roedd bron i 100 o gynigion “rhagorol” wedi dod i law cyn dewis, ymhlith eraill, yr Orsaf Fysiau ar gyfer y rhestr fer, a hynny mewn dau gategori o’r Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru 2021 sydd i’w cynnal yn y Senedd, Bae Caerdydd ar 23 Medi.

Dyma’r hyb trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i fod yn gwbl drydanol a’r unig un lle mae modd gwefru cerbydau trydan ar y safle, ac felly gallai’r Gyfnewidfa ennill cydnabyddiaeth am “Gynaliadwyedd” yn ogystal â “Chleient Gorau”.

Mae nodweddion gwyrdd y prosiect yn golygu ei fod yn ymwrthod â nwy a thanwydd ffosil ac yn cyflenwi’r toiledau cyhoeddus â thanc cynaeafu dŵr glaw. Ond heblaw am hynny, fe enwebwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol fel “Cleient Gorau” gan y prif gontractwr Morgan Sindall am ei waith cydweithredol.

Rhoddir y Wobr Cynaliadwyedd “am berfformio’n wych o ran yr amgylchedd a’r hinsawdd yn y maes adeiladu, ac am ddiwallu’r gofynion presennol am dai, amgylcheddau gwaith a seilwaith, heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu’u gofynion hwythau.”

Mae holl wres a dŵr poeth yr adeilad yn cael ei bweru gan ffynonellau ynni sy’n adnewyddadwy ac yn wyrdd, gan leihau effaith carbon yr Orsaf drwy gydol ei chylch bywyd.

Daeth Morgan Sindall o hyd i ddeunyddiau sy’n naturiol, yn gryf ac yn hirhoedlog, a chodwyd yr adeilad mewn haenau yn unol ag egwyddorion allweddol yr “Economi Gylchol” fel bod modd gwahanu, adnewyddu neu ddisodli pob un ohonyn nhw.

Mae’r Afon Taf yn llifo gerllaw ac mae’n nodedig am ei bywyd gwyllt gan gynnwys nifer o rywogaethau adar megis glas y dorlan a’r crëyr. Yn sgil hynny, gosododd y contractwr orsafoedd bwydo i’r adar gwyllt mewn rhannau tawelach o’r safle, ynghyd â chlwydfannau ystlumod ar draws y gwaith cerrig naturiol.

Wrth enwebu’r Cyngor am y wobr Cleient Gorau, dywedodd Ross Williams, Rheolwr y Prosiect: “Mae ymagwedd ragweithiol a chydweithredol yr Awdurdod Lleol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y Gyfnewidfa, ac mae’r gwaith adeiladu wedi rhagori ar bob disgwyliad gan gyflawni canlyniadau eithriadol i’r Cyngor, y defnyddwyr a’r partneriaid.

“Fe wnaeth y brwdfrydedd a’r berthynas gref a ddatblygodd rhwng y cleient a’r contractwr yrru’r awydd i arloesi a gwella,” ychwanegodd.

“Fe wnaethon ni gysylltu â sawl adran o’r Cyngor - trafnidiaeth, twristiaeth, adfywio ac addysg - i ddatblygu cysylltiadau ac integreiddio’r prosiect i gynlluniau cyffredinol yr awdurdod.”

Dywedodd Mr Williams fod Morgan Sindall, trwy ddefnyddio cysylltiadau’r Cyngor, wedi llwyddo i gynyddu cyflogaeth leol, ymglymiad addysgol ac ymgysylltiad cymunedol.

“Cafodd canran anferthol o wariant y prosiect, sef 94%, ei roi i fusnesau yng Nghymru,” ychwanegodd. “Cafodd hyn ei yrru ar y dechrau gan y cleient a’r defnyddiwr, a thargedwyd pob ffordd bosib i wario’n lleol - nid yn unig trwy roi sylw manwl i gontractwyr yr ardal ond hefyd trwy drefnu cwrdd â nhw. At hynny, dewiswyd deunyddiau lleol ac adolygwyd gwasanaethau ategol fel cludwyr gwastraff - a hyd yn oed y dyn llaeth a ffrwythau!”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio: “Bydd yr adeilad trawiadol hwn yn fan cychwyn ar gyfer adfywio canol y dref yn ei gyfanrwydd, ac nid yw’n syndod ei fod ar restr fer ar gyfer unrhyw fath o wobrau.

“Mae Morgan Sindall wedi cyflawni prosiect rhagorol sy’n wirioneddol wyrdd, a hynny o fewn yr amser a’r gyllideb a neilltuwyd ar ei gyfer ac o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd. Mae hefyd yn wych fod y Cyngor ei hun yn cael ei gydnabod am yr holl waith caled a wnaed gan ein Tîm Adfywio wrth i bawb wneud eu gorau glas o’r cyfle a ddaeth i’w rhan.

“Rhaid i’r Cyngor hefyd ddiolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru am gyllido’r Gyfnewidfa sydd, yn ei dro, yn cyd-daro â’i buddsoddiad sylweddol yn rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni