Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y gyfnewidfa Fysiau yn ennill trydedd wobr genedlaethol

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Ion 2022
Bus interchange planning award

Mae cyfnewidfa fysiau newydd Merthyr Tudful wedi ennill ei thrydedd wobr genedlaethol mewn tri mis.

Ar ôl derbyn dwy wobr yn yr Hydref, dewiswyd y gyfnewidfa allan o wyth ar restr fer fel enillydd IBCTC (Institiwt Brenhinol Cynllunio Trefol Cymru),am Gynllunio Rhagorol.

Disgrifiodd y beirniaid y gyfnewidfa fel ‘project esiampl o ddull cynhwysol o gynllunio, adeiladu a gweithredu a sut mae gwneud newid sylweddol i wneud system drafnidiaeth weithio.’

“Mae’r gyfnewidfa drafnidiaeth yn gyfleuster o’r radd orau ac yn ymateb i anghenion teithio pobl ym Merthyr Tudful a’r rhanbarth”.

“Mae’r adeilad yn drawiadol ac yn ddathliad arloesol o drafnidiaeth gyhoeddus fodern: model i eraill ei dilyn.”

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r hyb cyfan gwbl drydanol cyntaf yng Nghymru yn galluogi gwefru ar y safle, heb ddim cyflenwad nwy na thanwydd ffosil a gyda thanc i gasglu dŵr y glaw ar gyfer y toiledau.

Yn ddiweddar, mae wedi ennill y categori ‘Cynaliadwyedd’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Adeiladu yng Nghymru 2021, gyda’r Cyngor hefyd yn ennill clod  Client y Flwyddyn yng Ngwobrau Institiwt Siartredig yr Adeiladwyr 2021 yn Llundain.

Roedd y gyfnewidfa yn un o wyth project i’w rhoi ar y rhestr fer gan IBCT Cymru fel ‘esiamplau eithriadol o sut mae cynllunwyr a chynlluniau yn cael effaith positif ar safon bywyd a chreu lleoliadau eithriadol a diogelu’r amgylchedd’.

Nododd y beirniaid bod y gyfnewidfa yn gysylltiad rhwng amrywiaeth o drafnidiaeth gan gynnwys bysiau, tacsis ac isadeiledd metro rheilffordd ar gyfer adfywio’r dyfodol a thwf canol y dref.

“Mae hyn wedi ei gyflawni gyda chynaliadwyedd yn ganolog a gan ddod a thrydaneiddio trafnidiaeth gyhoeddus a gyda’r cyfleuster ei hun yn blaenoriaethu ynni adnewyddadwy yn ogystal â nodweddion amgylcheddol eraill.”

“Roedd y dull yn esiampl ragorol o ymrwymiad cynhwysol ac ystyrlon gydag arweiniad gynllunio amlwg gan gynnwys y Comisiwn Cynllunio i Gymru.”

Cyflwynwyd y wobr i Gyfarwyddwr Cynllunio a Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor Judith Jones a chynrychiolwyr o brif gontractwyr y project Morgan Sindall a Capita.

Bydd y gyfnewidfa yn cael ei enwebu yn awtomatig ar gyfer gwobrau'r DU o’r  IBCT yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni