Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y gyfnewidfa fysiau yn ennill prif wobr adeiladu Cymru
- Categorïau : Press Release
- 05 Gor 2022

Mae cyfnewidfa fysiau newydd Merthyr Tudful wedi ennill ei bumed wobr bwysig mewn blwyddyn, gan gael ei enwi yn broject adeiladu gorau Cymru 2022.
Cyhoeddwyd yr orsaf fysiau £13m fel Project Adeiladu Gorau’r flwyddyn yng ngwobrau Rhagoriaeth mewn Adeiladu Cymru (RhAC), yr ail waith iddo gael ei wobrwyo gan RhAC o fewn 12 mis.
“Mae’n glir pam bod y gyfnewidfa yn ennill yr holl wobrwyon,” meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Adfywio a Thai'r Cyng. Geraint Thomas. “Mae’n edrych yn anhygoel, mae’r deunyddiau o’r safon uchaf ac mae yn gyfan gwbl drydanol- does dim angen tanwydd ffosil- gyda chyfleusterau gwefru tacsis a darpariaeth ar gyfer bysiau trydan at y dyfodol.
“Rydym eisoes wedi ennill gwobrwyon am gynaliadwyedd a rhagoriaeth mewn cynllunio, ond hon yw'r brif wobr a gyflwynir yn flynyddol gan Ragoriaeth mewn Adeiladu Cymru.”
Cyflwynwyd y wobr i Swyddogion tîm Adfywio'r Cyngor Bwrdeistref Sirol, y tîm cynllunio Capita a’r adeiladwyr Morgan Sindall Construction.
Mae RhAC yn gweithio gyda phob elfen o gwmnïau adeiladu a sefydliadau yn y sector gyhoeddus a phreifat ac yn helpu’r diwydiant i wella ei berfformiad a chynnig gwell gwerth am arian i glieintiaid a’r defnyddwyr.
Mae project yr orsaf fysiau nawr yn symud i Wobrwyon Rhagoriaeth mewn Adeiladu'r DU 2022 ym mis Tachwedd.