Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwasanaethau Bws yn dychwelyd i Heolgerrig ac Ynysfach
- Categorïau : Press Release
- 29 Medi 2023

Rydym yn falch iawn o gadarnhau y bydd y gwasanaeth bws ar gyfer Heolgerrig ac Ynysfach yn ailddechrau o ddydd Llun 2 Hydref.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei redeg gan Peter’s Minibuses, gan ddefnyddio cyllid Grant Cymorth Gwasanaethau Bws, Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae preswylwyr Heolgerrig ac Ynysfach, yn enwedig yr henoed wedi bod yn teimlo’n ynysig ers i’r gwasanaeth bysiau ddod i ben yn Awst.
“Rydym yn falch iawn i Peter’s Minibuses am camu i’r adwy. Mae’n hollbwysig bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio neu mi fydd yn hynod anodd i ni ymestyn y cytundeb y tu hwnt i fis Mawrth 2024.”
Mae'r amserlen lawn i'w gweld yma.