Ar-lein, Mae'n arbed amser
Posibilrwydd y bydd Gwasanaethau Bws yn dychwelyd i Heolgerrig ac Ynysfach
- Categorïau : Press Release
- 13 Medi 2023

Ers i’r gwasanaeth bws rheolaidd ddod i ben ddechrau Awst, nid oes gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn cydgysylltu Heolgerrig ac Ynysfach â chanol y dref. Fodd bynnag, gan ddefnyddio cyllid Grant Cymorth Gwasanaethau Bws, Llywodraeth Cymru, mae Peter’s Minibuses wedi gwneud cais i redeg gwasanaeth cyfyngedig, bum gwaith y dydd a hynny’n dechrau o Heolgerrig am 07.55 a’r bws olaf yn gadael y Gyfnewidfa am 17.40.
Mae’r argymhelliad wedi cael ei anfon at y Comisiynydd Traffig i’w gymeradwyo a gobeithio y bydd y gwasanaeth yn dechrau’r mis nesaf ac yn rhedeg hyd at ddiwedd Mawrth 2024.
Dywedodd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae preswylwyr Heolgerrig ac Ynysfach, yn enwedig yr henoed wedi bod yn teimlo’n ynysig ers i’r gwasanaeth bysiau ddod i ben. Mae’r Cyngor felly wedi bod yn edrych ar bob opsiwn i ailsefydlu’r gwasanaeth ac rydym yn falch i gyhoeddi fod Peter’s Minibuses wedi camu i’r adwy.
“Mae’n hollbwysig, unwaith y bydd y gwasanaeth yn ailgychwyn y bydd yn cael ei ddefnyddio neu mi fydd yn hynod anodd i ni ymestyn y cytundeb y tu hwnt i fis Mawrth nesaf.”