Ar-lein, Mae'n arbed amser
Digwyddiad Lansio Partneriaeth Addysg Busnes gyda'n Gilydd fis Ionawr!
- Categorïau : Press Release
- 17 Ion 2024
Mae'r Bartneriaeth Addysg Busnes Gyda'n Gilydd yn tyfu’n gyflymu ym Merthyr Tudful gyda'r nod o godi dyheadau ein plant a'n pobl ifanc. Gwyddom, mai dim ond trwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth, sy'n targedu adnoddau a chymorth yn effeithiol, y gallwn wella ein canlyniadau a galluogi pobl i dyfu a chyrraedd eu potensial.
Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i'r bartneriaeth, wrth i ni ddod at ein gilydd i lansio ein dull gweithredu yn ffurfiol yn y Coleg, Merthyr Tudful ddydd Mercher Ionawr 31ain . Bydd dros 80 o fusnesau, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn ymuno â ni ac yn helpu i ysbrydoli ein dysgwyr i 'fod y gorau y gallant fod'.
Mae'r Bartneriaeth eisoes wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ac wedi cefnogi ysgolion yn eu dulliau cwricwlwm. Yn ystod y lansiad bydd ysgolion yn cyflwyno eu taith, a bydd ein partneriaid yn siarad am y manteision i'r ddwy ochr o gymryd rhan yn yr agenda gynyddol bwysig hon. Mae digwyddiadau pellach wedi'u cynllunio yn y Flwyddyn Newydd, gan gynnwys sgiliau a chyflogaeth Gymraeg, Wythnos Ryngwladol y Menywod, yn ogystal â dechrau rhai rhaglenni mentora.
Bydd ysgolion, busnesau a chyflogwyr yn cael y cyfle i lywio y camau nesaf trwy drafodaethau a chyfleoedd ymgysylltu gyda ffocws. Mae ein gwaith wedi'i dargedu at bob person ifanc, o 3 oed a fyny! Bydd ein cydweithwyr llwybrau i waith yn ogystal â Gyrfa Cymru a'r Coleg, Merthyr Tudful yn bartneriaid allweddol wrth gefnogi pobl ifanc i addysg uwch a phellach yn ogystal â'r gweithle. Prynhawn y digwyddiad, bydd cyfle i bawb weld y Gystadleuaeth Sgiliau Gymreig ar waith, a gynhelir gan Y Coleg, Merthyr Tudful.
Os ydych chi'n fusnes neu'n gyflogwr sydd â diddordeb mewn cefnogi'r bartneriaeth wych hon, cysylltwch â Siobhan.price@merthyr.gov.uk a gwnewch adduned i gefnogi!
Am fwy o wybodaeth, ewch i - Cartref (merthyr.gov.uk)