Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cabinet yn cytuno cyfaddawdu teg ar gynnydd costau tacsis

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Gor 2022
Taxi (1)

Mae Cabinet y Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi cytuno i gais gan berchnogion tacsis i gynyddu'r gyfradd prisiau ym Merthyr Tudful, ond I 30c am y filltir gyntaf yn hytrach na’r 50c a awgrymwyd.

Fis diwethaf, cytunodd y Cabinet ar gynnydd o 50c, ond yn dilyn gwrthwynebiad gan dri preswylydd ac un gyrwr tacsi fe wanethant ail ystyried. Yn wreiddiol roedd 24 perchenog tacs wedi gofyn am y cynnydd oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

Dosbarthwyd manylion y cynnig gwreiddiol i bob un o’r 201 gyrrwr trwyddedig a pherchennog cerbyd hacni yn y Fwrdeistref Sirol a chafwyd 34 ymateb gyda 30 ohonynt yn cytuno gyda’r cynnydd.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor y Cyng. Geraint Thomas fod yr aelodau yn teimlo bod y pris newydd yn gyfaddawd teg, gan gefnogi’r gyrwyr ond ddim yn ormod o gynnydd i breswylwyr sy’n wynebu’r cynnydd mewn costau byw.

“Mae tacsis yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles llawer o bobl yn y Fwrdeistref Sirol,” ac ychwanegodd, “Allwn ni ddim fforddio eu colli oherwydd bod perchnogion ddim yn gallu talu am y cynnydd yng nghostau tanwydd.”

Bydd y newidiadau yn dod i rym ar Awst 1 2022. Lleiafswm y gost am siwrnai un filltir (neu ran o filltir) fydd £3.80 (£4.80 ar ôl 11.30pm).

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni