Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysgrifennydd Cabinet yn Ymweld â’r Flowers, Hafan i Bobl Ifainc ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 25 Meh 2025

Ymwelodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai, Jayne Bryant AS, â’r Flowers yn ddiweddar i ddangos ei hymrwymiad i lesiant pobl ifainc ym Merthyr Tudful. Mae’n brosiect chwyldroadol sy’n ymddangos fel petai ar fin newid bywydau plant sy’n derbyn gofal.
Cyflawnir y prosiect gyda £.3.6 miliwn o nawdd cyfalaf gan Gronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd Y Flowers, adeilad sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn darparu cartref diogel i fagu a meithrin hyd at ddeuddeg o bobl ifainc. Cafodd ei adnewyddi a’i ddatblygu mewn ffordd brydferth er mwyn cynnig ystod o wasanaethau, yn cynnwys llety hirdymor, asesiadau argyfyngus dros nos, a chyfleoedd am wyliau byr i bobl ifainc sydd ag anghenion ychwanegol. Bwriedir agor drysau’r hafan yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ac ar hyd o bryd rydym wrthi’n recriwtio staff fydd yn darparu gofal a chefnogaeth o’r safon uchaf.
Meddai’r Cynghorydd Louise Minett-Vokes, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol: “Rydym wedi ymroi i gynorthwyo pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i fyw’n annibynnol, ac mae Y Flowers yn enghraifft wych o’n gorchwyl ar waith.
“Mae nawdd y Gronfa Tai â Gofal yn gam arwyddocaol tuag at ddarparu llety a chefnogaeth hanfodol i’r sawl mewn angen. Mae’r ymdrech parhaus hwn i gefnogi’r rhaglen yn dangos yr ymroddiad sydd tuag at wella bywydau plant, unigolion hŷn ac eraill sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth.”
Mae’n hanfodol cofio bod plant mewn gofal yn aml yn glanio mewn sefyllfa o’r fath o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, megis cam-drin, esgeulustod neu dor-teulu. Mae arnynt angen ein trugaredd, ein dealltwriaeth a’n cefnogaeth er mwyn iddynt wella a ffynni. Meddai’r Aelod Cabinet ar Gyfer Gofal Cymdeithasol, “Mae’r bobl ifainc hyn yn haeddu ein gofal a’n trugaredd, ac rydym wedi ymrwymo i roi’r dechrau gorau posib iddynt mewn bywyd”
Ychwanegodd Nia McIntosh, y Cyn-swyddog Gomisiynu Rhanbarthol ar gyfer Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg: “Mae pobl ifainc wedi dweud wrthym fod teimlo’n gartrefol yn rhywbeth sydd y tu hwnt i do uwch eu pennau – mae’n ymwneud â pherthyn, hunaniaeth a chysylltiadau. Drwy ein hymrwymiad i’r agenda Gwaredi ar Elw, rydym yn creu cartrefi lle gall bobl ifainc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a’u galluogi i fyw’r bywyd maent yn eu haeddu.
Mae’r Flowers yn enghraifft bwerus o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gwrando ar bobl ifainc ac yn cydweithio â hwy er mwyn ymateb i’w hanghenion. Mae’n dangos ein bod ni’n gallu creu, nid yn unig tai ond hafodau – llefydd sy’n meithrin llesiant ac yn agor drysau i ddyfodol disglair. Byddwn yn parhau i ddysgu o brosiectau fel hyn er mwyn ffurfio datblygiadau’r dyfodol mewn ffordd sy’n rhoi pobl ifainc wrth wraidd bob dim rydym yn ei wneud.”
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud cynnydd mawr wrth ddatblygu gwasanaethau i blant, ac wedi trawsnewid y fwrdeistref o un oedd â dim tai i blant yn 2022 hyd ddau dŷ erbyn heddiw gyda phedwar tŷ arall yn agor o fewn y deunaw mis nesaf. Mae’r datblygiad anhygoel hwn yn profi bod pŵer cydweithio’n gallu gwaredi ar agenda o elw, rhywbeth sydd wedi cael effaith sylweddol ar drywydd gwasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Wrth i’r prosiect nesáu at ei derfyn (Gorffennaf 2025), mae’r gymuned yn obeithiol ac yn llawn cyffro a disgwyliadau. Mae’r Flowers yn fwy nag adeilad yn unig – mae’n symbol o obaith, o wytnwch a’r ymroddiad sefydlog sydd gennym at gefnogi pobl ifainc mewn angen. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae’n glir y bydd y fenter anhygoel hon yn goleuo’r ffordd i eraill, yn ysgogi newidiadau cadarnhaol ac yn galluogi pobl ifainc i gyrraedd eu llawn botensial.