Ar-lein, Mae'n arbed amser

Plant ysgol Caedraw yn helpu’r digartref gyda’u ‘Prosiect Pecyn Creision’

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Rhag 2022
Caedraw Blanket

Mae plant Ysgol Gynradd Caedraw wedi bod yn gweithio ar brosiect unigryw ac arloesol gyda’r bwriad o helpu’r digartref ym Merthyr Tudful. Mae’r prosiect yn gweithio drwy gymryd pecynnau creision gwag a llieiniau plastig a’u trawsnewid yn flancedi.

Miss Fleet, athrawes Blwyddyn 3, a Mrs Geake, athrawes Blwyddyn 5 yw Arweinwyr y Dyniaethau a Chydlynwyr-Eco’r ysgol. Yn wreiddiol, gwelon nhw’r ‘Prosiect Pecynnau Creision’ ar-lein ac wedi iddynt rannu’r syniad gyda’r Pwyllgor Eco a’r Clwb Eco, sy’n llawn o ddisgyblion Blwyddyn 2 - Blwyddyn 6, roedd y plant wrth eu boddau ac yn ysu i gymryd rhan.

Meddai Miss Fleet: “Yr eiliad dysgodd y plant am y ‘Prosiect Pecynnau Creision’ roeddent yn ysu i gychwyn. I ddechrau rhannon ni ein cynlluniau ar y Gweplyfr a gofynnom am roddion o becynnau creision gwag. Anfonwyd nifer anferthol atom o hyd a lled y Deyrnas Unedig – a hyd yn oed mor bell i ffwrdd a De Affrica!

“Maent wedi gweithio ar y cyd i ail-ddefnyddio pecynnau creision er mwyn creu blancedi wedi'u hinswleiddio sydd wedi cael eu rhoi i’n lloches i’r digartref lleol, i’r sawl sydd fwyaf angen y blancedi.

Mae’r plant wedi bod mor ymrwymedig i’r prosiect, ac wedi dangos empathi a thrugaredd yn eu dymuniad i helpu eraill. Rydym mor falch o’u hymdrechion.”

Eglurodd rhai o’r plant pam oedd y prosiect mor bwysig iddyn nhw:

“Roedd gwybod fy mod i’n cadw rhywun yn dwym y gaeaf hwn yn fy nghadw innau’n dwym hefyd” meddai Florence Phillips, Blwyddyn 5.

“Roedd gwneud rhywbeth neis i bobl eraill yn teimlo’n dda. Rwy’n gobeithio y bydd yn eu helpu i gadw’n dwym” Meddai Livvie Lewis, Blwyddyn 3.

Meddai Eiriolwr y Digartref ym Merthyr Tudful, y Cynghorydd Claire Jones: “Pwy feddyliai y gallai pecyn o greision gael ei ddefnyddio i greu blanced sy’n gwarchod sachau cysgu, cadw’r gwres i mewn, cadw unigolion yn sych a hefyd helpu i leihau’r nifer o gynnyrch plastig untro sy’n cael eu hanfon at safleoedd tirlenwi?

“Mae’n syniad hyfryd, ac mae’r negeseuon ystyrlon, o’r galon a ysgrifennwyd ar y blancedi gan y plant wir yn dangos gymaint maent yn meddwl am eraill.

“Mae’r grwpiau Merthyr Homeless Outreach a Providing Help to Merthyr Tudful Homeless and Less Fortunate  mor ddiolchgar i’r Pwyllgor Eco, nid oes modd dweud digon o ddiolch i blant a staff Caedraw.”

Dyma ddetholiad bychan o’r negeseuon a ysgrifennwyd ar y blancedi gan y plant:

- Sut ydych chi’n sillafu cariad? Does dim modd ei sillafu, dim ond ei deimlo.
- Rydym yn caru helpu pobl.
- Gobeithio bydd hwn yn eich cadw’n gynnes, bendith arnoch.

Beth am gymryd rhan yn eich Prosiect Pecyn Creision eich hun? Dysgwch mwy am y sylfaenydd, Pen Huston, a ddechreuodd ei genhadaeth unigryw ac arloesol yn Nhachwedd 2019. Am gyngor, syniadau a chyfarwyddiadau gweler: www.crisppacketproject.com

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni