Ar-lein, Mae'n arbed amser

Galwad i bob pleidleisiwr – Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 19 Ebrill

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Ebr 2021
IMG_3691 (2)

Nid oes ots ble cawsoch chi eich geni, os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch chi nawr bleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Fodd bynnag, mae'r dyddiad cau yn agosáu, ac mae angen i'r rhai sydd newydd eu hetholfreinio gofrestru erbyn dydd Llun 19 Ebrill.

Felly, peidiwch â cholli'ch llais – Mae camau mawr wedi eu cymryd yng Nghymru eleni i alluogi dinasyddion tramor i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru am y tro cyntaf a chymryd rhan yn etholiadau'r Senedd, ac mae'r rhai sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i gofrestru i bleidleisio erbyn dydd Llun 19 Ebrill er mwyn cael dweud eu dweud.

A chithau'n wladolyn tramor, mae'ch pleidlais yn cyfri – peidiwch â cholli'ch cyfle. Os ydych chi'n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio – mae'n gyflym ac yn rhwydd, a bydd yn sicrhau eich bod chi'n gallu cymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021.

Pwy sy'n ‘ddinesydd tramor cymwys’?

Dinesydd tramor cymwys yw rhywun sy'n preswylio yng Nghymru ond heb fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yr Undeb Ewropeaidd, neu Weriniaeth Iwerddon, ac sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, neu'r hyn sydd gyfystyr â hynny.

Sut mae cofrestru?

I gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae'n cymryd tua 5 munud fel arfer.

Gofynnir am eich rhif Yswiriant Gwladol wrth i chi gofrestru (ond byddwch chi'n cael cofrestru os nad oes gennych chi un).

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni