Ar-lein, Mae'n arbed amser

Canolfan a maes chwarae yn ailagor yr wythnos hon

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Medi 2021
Refurbished canolfan

Mae gwaith ailwampio’r Ganolfan a’r ardal chwarae ym Mharc Cyfarthfa wedi ei gwblhau. Ariannwyd yr ailwampio gan Lywodraeth Cymru a bydd yn ailagor ddydd Mercher hwn, 15 Medi.

Roedd yr ailddatblygu’n cynnwys adeiladu caffi newydd, ardal ddecin ȃ seddi awyr agored, creu gwagle cyfarfod cymunedol, gosod wyneb newydd ar yr ardal chwarae a gwella’r mynediad i’r safle drwy adeiladu llwybrau, stepiau a phompren newydd. 

Caiff y prosiect £900,000 ei ariannu drwy raglen ‘Canolfannau Darganfod’ Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru. Mae’r grant hefyd yn darparu toiledau newydd ac ystafelloedd newid yn y Pad Sblasio, na fydd yn agor tan y flwyddyn nesaf yn sgil problemau i’r sylfaeni, na ragwelwyd.

“Rydym wrth ein bodd o allu ailagor y Ganolfan ar ôl 18 mis rhwystredig i’r diwydiant adeiladu,” dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio.

“Rydym yn gwerthfawrogi bod ein preswylwyr a’u plant wedi gweld eisiau’r cyfleusterau, ond caiff eu hamynedd ei wobrwyo,” ychwanegodd. “Bellach, mae gan y Ganolfan ardal fwyta awyr agored newydd bendigedig, ȃ phaneli pren ac arddangosiad goleuo trawiadol sy’n creu gwagle cynnes a chroesawgar.

“Bydd cyfleoedd nawr ar gyfer arlwyo digwyddiadau fel partïon plant, ac arlwyo symudol ar gyfer ardaloedd o’r parc fel y llyn a Chae Pandy.

“Mae’r toiledau newydd a’r ystafelloedd newid yn cynnwys cyfleusterau fel hoist ac offer eraill i wneud newid yn haws i bobl anabl. Bydd y cyfleusterau ar gael i deuluoedd ifanc ac ymwelwyr sy’n mynychu digwyddiadau a gynhelir yn y parc drwy gydol y flwyddyn.”

Dywedodd prif weithredwr Lles@Merthyr Jane Sellwood: “Bydd y cyfleusterau wedi eu hailwampio yn ychwanegiad ffantastig i’n parc gwych, ac rydym yn siŵr y bydd aelodau o’r cyhoedd wrth eu boddau gyda nhw.

“Mae’r contractwyr Willis Construction wedi cyflawni swydd ragorol o dan amgylchiadau rhwystredig iawn, ac mae’r Ganolfan yn edrych yn wych bellach,” ychwanegodd.

“Rydym ni'r un mor siomedig ȃ’r preswylwyr ynghylch yr oedi wrth ailagor y Pad Sblasio, ond roedd rhaid i’r adeiladwyr gloddio’r sylfaeni. Yna roedd y gosodwyr offer chwarae gwlyb yn brysur iawn dros yr haf gan arwain at oedi pellach.

“Yn y cyfamser, allwn ni ddim ag aros i groesawu pobl yn ôl i’r hyn a fydd yn gyfleuster chwarae o’r radd flaenaf i blant a man cyfarfod i’w rhieni.”

Bydd yr oriau agor o 10am-4pm ddydd Llun i ddydd Sul yn ystod y gaeaf. Bydd Lles@Merthyr hefyd yn trefnu digwyddiadau arbennig dros gyfnod y Nadolig hwn a chymryd archebion ar gyfer gweithgareddau y tu allan i oriau.

  • Mae prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn buddsoddi mwy na £6.6m yn 11 safle parc y Cymoedd a safle treftadaeth a enwyd fel Canolfannau Darganfod.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni