Ar-lein, Mae'n arbed amser

Wythnos y Gofalwyr yn dychwelyd â thema newydd ar gyfer 2024

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Meh 2024
carers week

Eleni, thema Wythnos y Gofalwyr yw ‘Rhoi gofalwyr ar y map’ ac mae’n cael ei chynnal rhwng 10 ac 16 Mehefin. Mae’n ymgyrch ar gyfer y DU sydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl drwy godi eu hymwybyddiaeth yn y gymuned leol a’r heriau dyddiol y maent yn eu hwynebu gan eu cefnogi â’u cyfrifoldebau gofal. 

“Amcangyfrifir fod gofalwyr yn arbed £162 miliwn y flwyddyn i’r economi leol sydd yn cyfateb i ail GIG” – dyfyniad gan CarersWeek.org 2024 

Beth yw gofalwr di-dâl? Mae gofalwr di-dâl yn unigolyn sydd yn gofalu am unrhyw un sydd angen cymorth gan nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain.

Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi trefnu wythnos o sesiynau galw i mewn yn Hyb newydd Canol y Dref lle y gall gofalwyr weld pa gymorth sydd ar gael iddynt ym Merthyr.  Bydd amrywiaeth o sefydliadau yno i ddangos pa gymorth/gwasaanethau sydd ar gael ar eich cyfer chi.

Os na all gofalwyr fynychu’r digwyddiadau yn yr Hyb, bydd pamffledi ar gael yn cynnwys gwasanaethau’r sefydliadau gan gynnwys taflenni, posteri a gwybodaeth gyswllt. Gallwch eu cael yn nerbynfa Hyb y Dref yn ystod yr wythnos.

Am gymorth neu gwestiynau ynghylch eich cymorth gofal lleol neu ynghylch digwyddiadau’r wythnos, cysylltwch â Caitlin Matthews, Cydgysylltydd Cymorth Gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar  07762408368 neu e-bostiwch: Caitlin.matthews@merthyr.gov.uk.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni