Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dathlwch y Gymraeg a’i diwylliant yn ein Ffair Nadolig fis Rhagfyr eleni

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Tach 2023
Ffair Nadolig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth ei fodd i hyrwyddo ein dathliad blynyddol o’r iaith Gymraeg yn ein Ffair Nadolig ar ddydd Sadwrn yr 2il o Ragfyr 2023, o 10am hyd 4pm yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful.

Cynhelir y digwyddiad Nadoligaidd, hwyl hwn i’r teulu oll yn rhad ac am ddim gan yr Awdurdod Lleol a’i phartneriaid Cymraeg. Y nod yw cynnai fflam yr iaith yn nhrigolion Merthyr ac i ysbrydoli ac anog pawb i fanteisio ar gyfle i ddefnyddio brawddegau sylfaenol megis “shwmae”, “bore da” a “sut wyt ti.”

Bydd ieuenctid talentog ysgolion Merthyr yn perfformio rhai o’n hoff ganeuon Nadolig er mwyn i bawb deimlo’n Nadoligaidd.

Peidiwch â cholli’r cyfle i gefnogi busnesau lleol wrth i chi bori drwy ystod o stondinau traddodiadol Cymreig fydd yn gwerthu celf a chrefft a danteithion blasus. Cymrwch ran mewn gweithdai rhyngweithiol er mwyn dysgu ragor am sut i Siarad Cymraeg mewn awyrgylch dwym a chroesawgar.

Bydd unrhyw blant sy’n ddigon lwcus i fod yn y ffair yn cael eu gwahodd i gwrdda Siôn Corn ac i rannu eu gobeithion Nadoligaidd gyda’r gŵr ei hun – profiad hudolus rhy wych i’w golli!

Meddai Pencampwr yr Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Michelle Symonds, “Rwy’n edrych ymlaen at ein hail Ffair Nadolig fis Rhagfyr eleni. Unwaith eto, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn amgylchedd hamddenol, hwyl ac anffurfiol. Bydd yr awyrgylch yn llawen gyda nifer o ysgolion lleol yn perfformio caneuon Nadolig i bawb gael mwynhau. Bydd cyfle i bori drwy ac i brynu crefftau a rhoddion unigryw gydag elfen Gymreig iddynt. Ymunwch â ni am ddigwyddiad hwyl, gwych a Nadoligaidd i’r teulu oll.”

Peidiwch â cholli’r dathliad anhygoel hwn o ddiwylliant yr iaith Gymraeg. Dewch â’ch teulu a’ch cyfeillion a dewch i ni greu diwrnod i’w gofio.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â shwmaeronment@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni