Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bwyty Tseiniaidd yn cael dirwy am ddiffyg glanweithdra yn cynnwys pla llygod

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Chw 2022
Fined

Gorchmynnwyd cau bwyty Tseiniaidd Aberfan am fod â safon glanweithdra isel a phla llygod.

Derbyniodd Adran Wasanaethau Amgylchedd y Cyngor gwyn gan aelod o’r cyhoedd yn poeni am weld llygod mawr yn iard gefn y busnes bwyd. Cynhaliwyd ymweliad brys gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar Awst 4ydd 2021a darganfod pryderon glanweithdra o fewn y busnes.

Roedd y gegin yn frwnt, gyda bwyd yn agored i lygriad a thystiolaeth o nyth llygod o fewn storfa fwyd. Darganfu y Swyddog wendidau yn strwythur yr adeilad a oedd yn gadael i lygod ddod mewn i’r adeilad. Roedd bag o wenwyn ar y llawr yn y gobaith y byddai hyn yn delio â’r broblem. Roedd yn amlwg bod hyn yn bodoli ers tro a bod perchennog y busnes wedi methu delio yn briodol â’r sefyllfa. Oherwydd y cyflwr anfoddhaol, cyflwynodd y Swyddog rybudd cyfreithiol I gau y busnes nes bod gwellianau yn cael eu gwneud. O ganlyniad I’r archwiliad, dyfarnwyd Sgôr Hylendid o 0 I’r busnes, sef y sgôr isaf y gellir ei roi.

Mynychodd Gweithredwr y Busnes Mrs Xia Hui Xiao Lys Ynadon Merthyr Tudful ar Ionawr 26ain  2022 a phledio yn euog i bob un o’r naw cyhuddiad o dorri rheoliadau glanweithdra.

Dirwywyd perchennog y busnes gyfanswm o £1600 a gorchmynnwyd I dalu costau o £697.50 a thâl dioddefwr ychwanegol o £160.

Dwedodd y Cyng. Geraint Thomas, Dirprwy Areinydd gyda Phortffolio am Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio, “Mae’r achos yn dangos bod ein Swyddogion Iechyd yr amgylchedd yn gweithredu yn gyflym i amddiffyn iechyd y cyhoedd pan mae gwendidau amlwg sy’n rhoi y cyhoedd mewn perygl gan fusnesau bwyd.

Mae’n hanfodol bod perchnogion busnesau bwyd yn cydymffurfio â rheoliadau glendid bwyd. Dyw’r pandemig COVID-19 ddim yn esgus i Fusnesau Bwyd adael i safonau glendid lithro.

Byddwn yn annog defnyddwyr i wirio Sgôr Hylendid busnes bwyd cyn dewis bwyta eu bwyd.Mae’n ddisgyliad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgôr er mwyn i ddefnyddwyr wneud dewis doeth.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni