Ar-lein, Mae'n arbed amser
Perchennog siop tecawê Tsieineaidd yn cael ei gwahardd a’i dirwyo am rwystro swyddogion
- Categorïau : Press Release
- 30 Awst 2023

Canfuwyd fod siop tecawê Aber-fan ym Merthyr Tudful yn gweithredu heb ddŵr poeth a gorchmynwyd y dylid ei chau wedi i’r perchennog rwystro archwiliad rheolaidd.
Aeth Swyddogion o Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor i Dŷ Bwyta Aber-fan er mwyn gwneud archwiliad safonau hylendid bwyd arferol ar 13 Medi. Wedi iddynt fynd i’r gegin, roedd yn amlwg nad oedd dŵr poeth ar gael ar y lleoliad er bod y busnes yn parhau i baratoi bwyd i’w werthu.
Mae dŵr poeth yn hanfodol er mwyn golchi dwylo’n drwyadl ac er mwyn paratoi bwyd a glanhau a diheintio pob arwyneb ac offer. Cynghorodd y Swyddogion y dylid cau’r lleoliad ar unwaith.
Tra’n tynnu lluniau er mwyn tystiolaethu’r diffyg dŵr poeth, ceisiodd y perchennog rwystro’n swyddogion drwy afael yng nghamera ffôn symudol y Swyddog.
Cafodd y Swyddogion eu gorfodi o’r gegin ac nid oedd fodd iddynt gwblhau’r archwiliad safonau bwyd. Roedd offer archwilio’r Swyddogion wedi eu cloi yn y gegin.
Cafodd Hysbysiad Hylendid Brys ei gyflwyno a’i gadarnhau gan Lys yr Ynadon a ddyfarnodd Orchymyn Hylendid Brys ar 21 Medi 2022. Cafodd y gorchymyn ei ddirymu wedi i gyflenwad addas o ddŵr poeth ailddechrau.
Yn sgil methiant yr archwiliad, derbyniodd y busnes Ddyfarniad Hylendid Bwyd o 0 sef y sgôr isaf, posib.
Plediodd Gweithredwr y Busnes Bwyd, Mrs Xiu Hui Xiao yn euog i bob un o’r tri chyhuddiad o dorri rheoliadau hylendid a rhwystro Swyddogion yn Llys yr Ynadon, Merthyr Tudful ar 2 Awst 2023.
Derbyniodd ddirwy o £960 a’i gorchymyn i dalu costau gwerth £507.82 a gordal dioddefwr o £384.
Yn sgil difrifoldeb rhwystro Swyddogion a’r ffaith mai dyma’r ail waith i’r gweithredwr bwyd gael ei erlyn yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, cafodd Mrs Xiu Hui Xiao ei gwahardd rhag rheoli unrhyw fusnes bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Portfolio y Cabinet ar gyfer Adfywio, Tai a Diogelu’r cyhoedd fod “Yr achos yn dangos y gall Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd gymryd camau gweithredu cyflym os oes angen er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd pan fydd methiannau amlwg busnes bwyd yn rhoi cwsmeriaid mewn risg.
"Mae gan Swyddogion y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i archwilio unrhyw leoliad ac ni ddylid eu rhwystro rhag gwneud eu swyddogaethau. Mae’r Llys wedi cymryd camau cryf er mwyn sicrhau na all Mrs Xiao gael unrhyw ran mewn rheoli busnes bwyd ac mae hyn yn anfon neges glir na ddylid rhwystro Swyddogion i wneud eu harchwiliadau.
"Mae’n hanfodol fod perchnogion unrhyw fusnes bwyd yn cydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.
"Rwy’n argymell defnyddwyr i wirio cyfradd Hylendid Bwyd lleoliad cyn iddynt ystyried bwyta yno. Mae’n ofyniad cyfriethiol yng Nghymru fod cyfraddau yn cael eu harddangos er mwyn cynorthwyo defnyddwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.”