Ar-lein, Mae'n arbed amser

Goleuadau’r Nadolig yn cael eu cynnau’n rhithiol yn sgil ansicrwydd ynghylch Covid-19

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Hyd 2021
Square

Mae’r ansicrwydd parhaus yn sgil y pandemig yn golygu y bydd goleuadau Nadolig Merthyr Tudful yn cael eu cynnau’n ‘rhithiol’ am yr ail flwyddyn o’r bron.

Gan fod cyfraddau Covid-19 yn parhau i fod yn uchel, ledled y DU mae’r Cyngor a’i bartneriaid; Calon Fawr Ardal Gwelliant Busnes Merthyr Tudful a Chanolfan Siopa Santes Tudful wedi penderfynu’n anfoddog i beidio cynnal digwyddiad i gynnau’r golau.

Yn hytrach, bydd cyflwynwyr Capital FM, Josh Andrews a Kally Davies yn darlledu noson o adloniant fyw o bencadlys yr orsaf radio.

Bydd hefyd ymweliad gan Siôn Corn a rhoddion o felysion a theganau, marchnadoedd Nadolig ac adloniant stryd yn arwain at y Nadolig.

“Mae’n siom i ni, unwaith yn rhagor i orfod canslo’r digwyddiad byw,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio.

“Mae’n amhosib i ni ddyfalu sut beth fydd cyfraddau Covid wrth i ni fynd i mewn i’r gaeaf – nid oes neb wedi diystyru rhagor o gyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru.

"Mae seremoni cynnau’r goleuadau bob amser wedio denu torfeydd mawr – cymaint â 7,000 o bobl i Sgwâr Penderyn a chredwn y byddai’n anghyfrifol i gynnal digwyddiad allai arwain at fwy o achosion o Covid.”

"Mae diogelwch a lles ein cymuned yn flaenoriaeth.”

Dywedodd Huw Williams, Cadeirydd Calon Fawr Merthyr Tudful: “Rydym yn siomedig na allwn ddarparu noson llawn hwyl i deuluoedd a phlant.  

“Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i ganol y dref yn ystod y dydd pan fydd ysbryd yr ŵyl i’w deimlo. Bydd adloniant, rhoddion ac ambell sypreis hefyd.”

Bydd y seremoni rithiol yn cael ei chynnal am 6pm, Ddydd Sadwrn, 13 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth, cadwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol Caru Merthyr, Canolfan Siopa Santes Tudful a’r Cyngor.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni