Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cerddoriaeth a hwyl yr Ŵyl wrth droi goleuadau’r Nadolig ‘mlaen yn Nhreharris
- Categorïau : Press Release
- 17 Tach 2022

Bydd ffair Nadolig blynyddol a throi'r goleuadau Nadolig ‘mlaen yng nghanol tref Treharris yn dychwelyd ddydd Gwener Rhagfyr 2.
Bydd llwyth o weithgareddau Nadolig ar Sgwâr Treharris gan gynnwys perfformiad gan y band Gwyddelig Fiddler’s Elbow, gydag amrywiaeth o stondinau gan grwpiau a busnesau lleol.
Mae’r ffair yn agor am 3pm a bydd y goleuadau yn cael eu troi ’mlaen am 6pm gan Faer Merthyr Tudful, y Cyng. Declan Sammon, tra bydd Canolfan Gymunedol Treharris yn cynnal Groto Siôn Corn a chanu carolau dan arweiniad Côr Ysgol Gynradd Edwardsville. Fe fydd hefyd fins peis a diod dwym i gynhesu’r galon!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gydag Amy Harris ar 07741 273417.