Ar-lein, Mae'n arbed amser

Eglwysi, clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol yn derbyn cymorth cyllido gan Ffos-y-fran

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Medi 2022
High Street Baptist Church


Mae grwpiau cymunedol, clybiau a phrojectau ar draws Merthyr Tudful i dderbyn rhwng £10,000 a £200,000 o raglen grantiau a gyllidwyd gan raglen grantiau a gyllidir gan y cwmni sy’n rhedeg cynllun adfer tir Ffos-y-fran.

Bydd tair eglwys yng nghanol y dref yn derbyn dros £280,000 rhyngddynt ar gyfer gwaith adnewyddu, a bydd amrywiaeth o glybiau chwaraeon yn elwa o wella cyfleusterau, a bydd canolfan les gymunedol yn derbyn cefnogaeth tuag at fws mini newydd.

Mae Cynllun Grantiau Mawr Ffos-y-fran yn darparu cyllid ar gyfer projectau sy’n helpu creu ‘economi amrywiol, cynaliadwy a chryf’, gan gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at wneud Merthyr Tudful yn le mwy ‘cynaliadwy, diogel, atyniadol a bywiog’ i fyw.

Bydd y cynllun yn rhoi £145,500 i broject adnewyddu Ffrindiau Eglwys y Bedyddwyr y Stryd Fawr; £110,000 I Weinidogaeth Ardal Merthyr Tudful er mwyn addasu a gwneud y mwyaf o’r gofod yn Eglwys Dewi Sant; a £28,140 i Eglwys Hope ar gyfer ailwampio'r toiledau.

Dyfarnwyd cyllid hefyd i:

• Glwb Rygbi Merthyr - £199,000 tuag at ystafelloedd newid ar wahân ar gyfer timau a dyfarnwyr a chawodydd, ystafell driniaeth a thoiledau a chegin.

• Clwb Bechgyn a Merched Georgetown - £43,668 tuag at wella cae pêl droed.

• Clwb Rygbi Treharris Phoenix - £22,136 tuag at wella’r llifoleuadau a pheiriant sgrymio.

• Clwb Rygbi Dowlais - £10,044 i brynu cynhwysydd llongau 40-troedfedd i’w droi yn eisteddle.

• Clwb Rhedeg Merthyr - £10,000 tuag at gynnal Hanner- marathon Merthyr ym mis Mawrth 2023.

• Adran Fini ac Iau Clwb Rygbi Ynysowen - £8,767 tuag at adnodd i storio ac i werthu bwyd a byrbrydau.

• Grŵp Sefydliad Gellideg - £23,200 tuag at brynu bws mini er mwyn i’r mwyaf bregus allu mynychu'r ganolfan les.

• Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful- £41,964 ar gyfer dwy sgrin yn y Redhouse ac ar Sgwâr Penderyn , I hyrwyddo digwyddiadau a chynnal digwyddiadau fel sinema gymunedol a darlledu digwyddiadau chwaraeon.

• Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens & George - £25,000 ar gyfer yr Ŵyl Lyfrau Plant blynyddol.

• Cymdeithas Dai Merthyr Tudful - £15,000 ar gyfer cymorth dros dro i deuluoedd mewn argyfwng oherwydd costau ynni, ac i annog cyfranogiad mewn digwyddiadau cymunedol.

Sefydlwyd Cynllun Grantiau Cymunedol Ffos-y-fran gan y Cyngor Bwrdeistref |Sirol mewn cydweithrediad gyda Merthyr (De Cymru) Cyf, sy’n rhoi £1 am bob tunnell o lo a werthir o gynllun adfer tir Ffos-y-fran. Mae mwy na £8m wedi ei ddyfarnu i ystod eang o grwpiau ac achosion da ers i’r safle agor yn 2007.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol ac Aelod y Cabinet dros Adfywio a Thai'r Cyng. Geraint Thomas: “Cawsom lawer o geisiadau ar gyfer Cynllun Grantiau Mawr Ffos-y-fran y tro yma ac roeddem yn falch o’r nifer ac o safon y ceisiadau.

“Yn ogystal â helpu ein clybiau chwaraeon i ffynnu, bydd y cyllid hefyd yn helpu grwpiau cymunedol a phreswylwyr mewn ardaloedd difreintiedig a chefnogi digwyddiadau diwylliannol poblogaidd.”

Byddwn yn cyhoeddi'r ceisiadau llwyddiannus mewn mwy o fanylion yn yr wythnosau nesaf.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni