Ar-lein, Mae'n arbed amser
Disgyblion ysgolion yn cydweithio i greu ap o’r enw ‘Train 2 Sustain’
- Categorïau : Press Release , Education , Schools
- 18 Awst 2022

Cyn diwedd tymor yr haf, cydweithiodd disgyblion blwyddyn 5 ysgolion cynradd Troedyrhiw ac Ynysowen i greu ap gyda chyngor rhyngweithiol ar arfer cynaliadwy i daclo newid hinsawdd.
Daeth y syniad gan ddisgyblion Troedyrhiw a oedd wedi eu hysbrydoli gan y gynhadledd hinsawdd genedlaethol ac a oedd am godi ymwybyddiaeth o’r angen am newid mewn ymddygiad er mwyn cefnogi’r agenda hwn. Gweithiodd y disgyblion gyda chwmni allanol Value-Added Education I greu ap a rhannu’r neges. O fewn yr ap ceir realiti estynedig er mwyn cael dull mwy integredig a gellir ei weld yn arbennig yn y gwaith celf. Mae gan yr ap flogiau am fyw bywyd cynaliadwy a chaneuon am newid hinsawdd. Gan ddefnyddio ‘Minecraft’ i greu adeiladau a ffynonellau ynni amgen, ychwanegodd y disgyblion fapiau yn dangos lleoliadau posib ar draws Cymru ar gyfer yr isadeiledd cynaliadwy hwn.
Fel rhan o strategaeth CDCS, mae gan Ferthyr Tudful uchelgais o sicrhau bod pob dysgwr yn cael cefnogaeth i gyflawni'r sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol uchaf posib.. Yn ystod y project, mae’n glir bod y disgyblion wedi datblygu sgiliau sylweddol o fewn yr ardaloedd allweddol hyn wrth ffocysu ar bwysigrwydd newid hinsawdd a chynaliadwyedd.
Dwedodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Ynysowen, Simone Roden, “Mae’r hyn y mae’r disgyblion wedi ei ddysgu a’i gyflawni yn ystod tymor yr haf wedi bod anhygoel ac ysbrydoledig. Am y tro cyntaf, mae dwy ysgol wedi dod at ei gilydd i greu un ap.
Dwedodd Pennaeth Troedyrhiw, Mrs J Roome, “ Mae rhaid i ni ffocysu ar sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn cyflawni'r lefelau uchaf posib o lythrennedd, rhifedd a chymhwystra digidol. Mae angen i’r sgiliau yma gael ei datblygu o’r blynyddoedd cynnar a thrwy’r ysgol ac ymhellach, a dylai bod disgwyliad clir a chyraeddadwy ar gyfer pontio o un cyfnod addysg i’r nesaf, gyda’r dull blaengar hwn, rydym wedi llwyddo gwneud hyn.
Dwedodd yr aelod Cabinet am Ddysgu, y Cyng. Michelle Jones, “Mae creu'r ap hwn wedi galluogi disgyblion y ddwy ysgol i ddatblygu sgiliau allweddol a chefnogi 4 diben y Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn unigolion uchelgeisiol, mentrus, egwyddorol ac iachus.”
Mae’r ap ar gael i’w lawr lwytho am ddim o’r App Store: https://apps.apple.com/gb/app/train2sustain/id1625103646