Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cynghorydd Lisa Mytton yn cymryd yr awenau

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Ion 2021
Lisa Mytton

Mae’r aelod etholedig benywaidd sydd wedi gwasanaethau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol hiraf, sef y Cynghorydd Lisa Mytton, newydd ei dyrchafu fel ei Arweinydd Annibynnol benywaidd cyntaf.

Mewn Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd neithiwr (20 Ionawr), cafwyd penderfyniad unfrydol i benodi’r Cynghorydd Mytton fel Arweinydd a hynny ar unwaith.

Cafodd y Cynghorydd Mytton, Aelod Annibynnol Ward y Faenor, ei hethol yn 2008, cyn dyfod yn Faeres yn 2012 ac mae hi wedi bod yn Aelod Cabinet dros Ddysgu ers bron i bedair blynedd.

Gadawodd y Cynghorydd Mytton yr ysgol yn 16 oed gan ymuno â Chynllun Prentisiaid Ifanc a gweithio mewn asiantaeth deithio cyn cael ei dyrchafu’n gyflym i fod yn un o’i reolwyr ieuengaf. Yn ddiweddarach dychwelodd i’r coleg a’r brifysgol ble y cymhwysodd fel darlithydd.

“Gwnaeth y profiad o fod yn brentis i mi eisiau parhau i weithio yn y maes hwnnw ac ymunais â’r darparwr hyfforddi ALS Training, sef y cwmni a oedd wedi rhoi’r cychwyn hwnnw i mi yn 16 oed,” dywedodd.

“Bellach, rwyf wedi bod yn gweithio iddyn nhw ers dros 26 o flynyddoedd mewn addysg Ôl-16 ac yn rhan amser fel Pennaeth Ansawdd, gan weithio ar bolisïau a gweithdrefnau yn cynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth, hunan asesu a sicrwydd ansawdd ar gyfer prentisiaethau.”

Cafodd y Cynghorydd Mytton ei hethol ‘ar ôl ymgymryd â’r frwydr i achub cae i’r gymuned’ a daeth i fod yn Faeres yn 2012 ‘sef rôl yr oeddwn yn ei chofleidio a’i charu’.

Mae hi’n eistedd ar dri bwrdd elusennol – Sefydliad Cyfarthfa, Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens & George. Mae hi hefyd yn aelod o ddau fwrdd llywodraethu, Ysgol Gynradd y Graig ac Ysgol Gynradd Cyfarthfa.

“Rwy’n fam i James a Beth, a dyna sy’n llywio f’egni a f’angerdd,” dywedodd. “Mae gymaint o bobl wedi gofyn sut ydw i’n ymdopi i wneud yr hyn wyf yn ei wneud. Y plant yw’r grym sy’n fy ngyrru – rwyf am iddynt weld model rôl gadarnhaol yn eu mam, ac fel rhiant sengl sy’n gweithio’n galed nid yn unig ar eu rhan nhw ond dros y gymuned ble maen nhw’n byw ynddi; ac fel menyw sy’n arwain y ffordd at newid mewn byd sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.

“Byddaf bob amser yn dweud wrthyn nhw am roi cynnig ar bopeth ac os wnewch chi fethu, byddwch yn dysgu oddi wrth hynny; os wnewch chi lwyddo, byddwch yn dysgu o hynny hefyd – ond, yn fwy nac unrhyw beth, parhewch i fod yn ddiymhongar ac yn ddiolchgar.”

Dywedodd y Cynghorydd Mytton nad oedd hi erioed wedi cael ei chymell gan wleidyddiaeth. “I mi, mae e bob amser wedi bod ynghylch yr hyn sy’n iawn i Ferthyr Tudful, beth sy’n iawn i’r bobl, beth allwn ni ei wneud i wella sut ydyn ni’n gweithio, gwella ble’r ydyn ni’n byw, a’r cyfleoedd i bawb.  

“Bydd yna benderfyniadau anodd ar hyd y daith bob tro, ond rwy’n credu bydd y cadarnhaol yn rhagori. Rwyf am wneud y cyfan gallaf i fel Arweinydd i gyflawni newid a pharhau’r daith drawsnewid yr ydyn ni arni. Ac rwy’n hynod o falch o fod y fenyw gyntaf i allu gwneud hynny gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni