Ar-lein, Mae'n arbed amser

Coed-Y-Dderwen yw’r ysgol gynradd gyfrwng Saesneg gyntaf ym Merthyr i ennill Gwobr Arian y Siarter Iaith

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Ebr 2023
CC2

Mae’r Siarter Iaith yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n annog ysgolion i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg, gwella sgiliau ac ysbrydoli plant i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.

Mae’r Siarter yn darparu fframiath i ysgolion allu dilyn er mwyn ennill gwobr ar un o dair wahanol lefel; Efydd, Arian neu Aur. 

Gweithiodd pawb yn ysgol Gynradd Coed-y-Dderwen fel tîm; yr athrawon, y staff cynorthwyol, y llywodraethwyr a’r disgyblion er mwyn chwalu’r targedau a osodwyd ar gyfer y Wobr Arian.

Cynhaliwyd asesiad gan Gonsortiwm Canolbarth y De a chyflwynwyd Gwobr Arian i’r ysgol, gan greu hanes drwy fod yr ysgol gynradd gyfrwng Saesneg gyntaf ym Merthyr Tudful i ennill y wobr glodfawr hon.

Dwedodd y Pennaeth, Mrs Sarah Townsin:

“Rwy’n hynod o falch o gymuned yr ysgol gyfan am ennill Gwobr Arian y Siarter Iaith.

Arweiniwyd y diwrnod asesu gan ein Criw Cymraeg hirsefydlog ac fe’u galwyd nhw’n ‘ysbrydoledig’ ac yn rhan allweddol o’r gwaith o godi safonau’r Gymraeg yn Nghoed-y-Dderwen. Rydym yn barod wedi dechrau’r siwrnai tuag at y Wobr Aur!

Ein bwriad yw ysbrydoli plant Coed-y-Dderwen i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau gyda hyder a mwynhad ac o fewn y gymuned ehangach. Mae’r Gymraeg yn uchel i fyny ar restr flaenoriaethau ein hysgol ac mae’r wobr hon yn dathlu’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn. Fel ysgol, rydym wrth ein bodd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni