Ar-lein, Mae'n arbed amser

Galwch heibio ein siop ymgynghori!

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Chw 2023
Consultation shop

Mae’r Cyngor wedi agor ‘siop ymgynghori’ yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful i arddangos cynlluniau a gofyn am sylwadau pobl am nifer o gynigion dros y misoedd nesaf.

Agorodd y siop heddiw (dydd Llun, Chwefror 6), ac am y pythefnos nesaf bydd yn ganolbwynt ar gyfer yr ymgynghoriad diweddaraf ar ail ddatblygu’r ganolfan siopa.

“Fel rhan o ‘Gynllun’ 15 mlynedd y Cyngor bydd Canolfan Siopa Santes Tudful yn cael gwedd newydd - ac rydym yn gofyn i bobl sut hoffent ei gweld yn newid”, meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Adfywio'r Cynghorydd Geraint Thomas.

“Rydym yn mynd i dynnu’r byrddau o amgylch safle’r hen orsaf fysiau a chyflwyno cynllun hyblyg, atyniadol dros dro a fydd yn rhoi amser i ni gynllunio a pharatoi i adfywio'r ardal gyfan.”

Cyllidir arian cychwynnol yr ail ddatblygiad gan grant gan Lywodraeth Cymru.

Ymysg y syniadau am ST2 mae:

  • Cymysgedd o siopau, lleoliadau gwaith a chartrefi
  • Gwell cyfleusterau marchnad yn cynnwys cyfleoedd masnach stryd
  • Ardaloedd cyhoeddus agored mwy atyniadol a defnyddiol
  • Lleoliadau bwyd a diod o safon uchel
  • Mwy o fusnesau newydd ac annibynnol
  • Cyflwyno maes parcio amser penodol i Stryd y Castell a Stryd Gilar

“Byddem yn hoffi clywed am awgrymiadau eraill gan fusnesau, preswylwyr a siopwyr”, ychwanegodd y Cynghorydd Thomas. Rydym eisiau clywed beth hoffai pobl weld yn y tymor hir ar y tir rhwng y gyfnewidfa fysiau newydd a’r Ganolfan ddinesig- ardal yr ydym yn galw yn ST2 at ddibenion ymgynghori.”

Mae’r siop ymgynghori ar agor o 10am-4pm, dydd Llun i ddydd Gwener, tan Chwefror 17. Mae copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael yn y siop neu’r |Ganolfan Ddinesig, neu gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein ar: http://bit.ly/3joV9LJ

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni