Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dewch i flasu rhywbeth newydd yn Hwb Cymunedol Cwmpawd!

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Maw 2023
Compass Centre open day

Mae preswylwyr Merthyr Tudful, sy’n chwilio am newid gyrfa, datblygu sgiliau neu gychwyn diddordeb neu weithgaredd newydd yn cael eu gwahodd i ddiwrnod agored ddydd Iau nesaf (Mawrth 23).

Mae Hwb Cymunedol Cwmpawd a Phroject Tai'r Gurnos yn cynnig cyfleodd i gymryd rhan mewn gweithdai lles a meddylgarwch, sgiliau TG a digidol, gwaith coed, hyfforddi manwerthu a gwasanaeth cwsmer, gwneud gemwaith, gweithgareddau crefft a thrin gwallt a harddwch.

Yn ddiweddar mae’r hen Ganolfan Ddysgu Cymdogaeth wedi ei thrawsnewid gyda rhaglen £1.2m ac yn cael ei hagor yn swyddogol ar Fawrth 22 gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o Lywodraeth Cymru Julie Morgan AS.

Yn wreiddiol agorodd y Ganolfan Ddysgu fel fflatiau, ond am y 25 mlynedd diwethaf wedi ei ddefnyddio fel canolfan addysgiadol i helpu pobl ifanc ac oedolion di waith i gael gyrfa a sgiliau.

“Bydd yr Hwb Cymunedol Cwmpawd yn cael dylanwad ffantastig ar yr ardal, gan helpu ein preswylwyr i ennill sgiliau a hyfforddiant a fydd yn arwain at waith ac yn gwella lles ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas. 

“Rydym yn gobeithio y byddant yn dod i’r diwrnod agored ac yn dysgu am yr hyn y gallant fod gydag ychydig o help.”

  • Bydd Diwrnod Agored Hwb Cwmpawd yn cael ei gynnal ar Fawrth 23 2023, rhwng 11am-7pm. Bydd staff yn tywys ymwelwyr ac yn siarad gyda nhw am y gwasanaethau sydd ar gael, a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni