Ar-lein, Mae'n arbed amser

Taith Gyfnewid Baton Brenhinol Gemau’r Gymanwlad 2022 i ymweld â Merthyr Tudful – Enwebwch Gludwyr Baton Merthyr Tudful yn awr

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Maw 2022
Queen's Baton Relay

Yr haf hwn, bydd dinas Birmingham yn croesawu Gemau’r Gymanwlad 2022. Mae’n ddigwyddiad amlgamp sydd yn cael ei gynnal pob 4 mlynedd ac yn cynnwys athletwyr o holl wledydd y Gymanwlad, ar draws y byd. Yn wahanol i’r Gemau Olympaidd, mae athletwyr Gemau’r Gymanwlad yn cystadlu dros Gymru yn hytrach na Phrydain. 

Bydd Taith Gyfnewid y Baton Brenhinol yn cael ei chynnal cyn y Gemau. Mae’n Daith Gyfnewid a fydd yn teithio ledled y byd, cyn i’r gemau ddechrau. Mae’r Baton yn cludo neges gan Bennaeth y Gymanwlad, sef y Frenhines  Elizabeth II. Mae’r Daith Gyfnewid fel arfer yn dechrau ym Mhalas Buckingham, Llundain lle y bydd y Frenhines yn rhoi’r Baton i’r rhedwr cyntaf. Yn ystod Seremoni Agoriadol y Gemau, mae’r rhedwr olaf yn rhoi’r Baton yn ôl i’r Frenhines neu i’w chynrychiolydd a fydd y darllen y neges er mwyn agor y Gemau’n swyddogol. Ar 7 Hydref 2021, mewn digwyddiad arbennig ym Mhalas Buckingham, gosododd y Frenhines ei neges yn y Baton a oedd felly’n dynodi dechrau’r Daith Gyfnewid, 294 diwrnod o hyd i 72 o genhedloedd a thiriogaethau’r Gymanwlad.  

Fel rhan o’r Daith yng Nghymru, bydd Baton y Frenhines yn teithio drwy Ferthyr Tudful, brynhawn Sadwrn, 2 Gorffennaf. Bydd y Baton yn rhan o orymdaith ar hyd Taith Taf a fydd yn dechrau yng Nghanolfan Gymunedol Aber-fan cyn gorffen yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful, lle y bydd gweithgareddau chwaraeon yn cael eu cynnal. Bydd rhagor o fanylion ac amseroedd ar gael, yn nes at yr amser.

Roedd gan Ellis Cooper, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, hyn i'w ddweud “Rwy’n hynod falch y bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn dod i Ferthyr fel rhan o’r Daith swyddogol. Mae gan Ferthyr Tudful dreftadaeth chwaraeon gyfoethog a bu athletwyr yn cystadlu dros Gymru yn y Gemau yn 2018. Mae gennym rwydwaith gwych o ddarparwyr chwaraeon a gweithgareddau corfforol, ledled y fwrdeistref sydd yn cefnogi preswylwyr Merthyr Tudful i fod yn iach a heini. Mae gennym hefyd wirfoddolwyr gwych sydd yn gwneud cymaint i gefnogi eu cymunedau lleol ac mae’n wych y bydd fodd i rai o’r unigolion hynny fod yn rhan o’r digwyddiad.”

Mae pob cymal o Daith Gyfnewid y Frenhines yn defnyddio Cludwyr Baton sydd yn cludo’r Baton ar ei daith. Mae Cludwyr Baton yn unigolion lleol sydd wedi ysbrydoli eraill ac sydd wedi cael effaith ar eu cymunedau neu sydd yn cynrychioli gwerthoedd Gemau’r Gymanwlad. 

Rydym yn awr am i gymuned Merthyr Tudful enwebu Cludwyr Baton Merthyr ar gyfer y digwyddiad. Bydd y Cludwyr hyn yn gwisgo iwnifform swyddogol Taith Faton y Frenhines ac yn cludo’r Baton fel rhan o’r orymdaith ym mis Gorffennaf. Dyma meini prawf Cymru ar gyfer yr enwebiadau:

Unigolyn /unigolion sydd wedi cynorthwyo a/neu sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

  • Unigolyn sydd â straeon unigryw ac ysbrydoledig o’u gorffennol neu’r presennol. Efallai, rhywun sydd wedi cyfrannu at chwaraeon, addysg, y celfyddydau, diwylliant neu elusen yn eu cymunedau a/neu eu rhwydweithiau ehangach.
  • Unigolyn sydd yn annog a chefnogi eraill i gyflawni heriau cadarnhaol ac sydd yn llwyddo, hyd eithaf eu gallu i oresgyn pob rhwystr neu sydd wedi goresgyn heriau eu hunain, er budd pawb.
  • Gall yr unigolyn fod yn aelod o deulu unigolyn pwysig yn y gymuned sydd wedi marw ond sydd yn ennyn pwysigrwydd a pharch o hyd.

Gellir gwneud enwebiadau o heddiw (23 March 2022) a byddant yn cau ar 30 Ebrill. Gallwch lawrlwytyho ffurflen enwebu yma - https://www.merthyr.gov.uk/do-it-online/request-or-apply/commonwealth-games-2022-queens-baton-relay-bearer-nomination/?lang=cy-GB&.

Os ydych chi’n gwybod am rywun sydd yn haeddu cydnabyddiaeth, enwebwch hwy er mwyn i ni ddathlu pobl wych Merthyr Tudful.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni