Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cydweithio Cymunedol yn dod â Play Pod Chwarae i Ferthyr

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Maw 2026
Play Pod Chwarae

Trwy gydweithrediad rhwng Adran Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac EggSeeds, cwmni datblygu cymunedol ac addysg awyr agored, mae Play Pod Chwarae wedi'i ddatblygu drwy gyllid gan Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd y prosiect drwy greu strwythur pren diogel yng Nghlwb Crown CiC, lle gall gweithwyr proffesiynol ym maes Chwarae, Ieuenctid ac Addysg archebu a benthyg amrywiaeth o adnoddau chwarae trwy gael aelodaeth flynyddol. Mae'r Pod yn cynnwys Chwarae Tân, Chwarae Dŵr, Chwarae Daear a Chwarae Gwynt gyda llawer o weithgareddau cyffrous i gyd-fynd â'r elfennau. Mae'r gweithgareddau yn ymgorffori ysgolion coedwig, yn ehangu mynediad i gyfranogwyr niwroamrywiol yn ogystal ag annog gwaith cymunedol a grŵp.

Dywedodd Chris Hole, Pennaeth Llesiant Cymunedol, "bydd y Pod Chwarae yn galluogi cymunedau ledled Merthyr Tudful i gael mynediad at ystod eang o offer chwarae, gan gefnogi sefydliadau i ddarparu cyfleoedd chwarae dan do ac yn yr awyr agored".

Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth a Heini Merthyr ac Ysgolion Bro sydd wedi rhoi offer chwaraeon, Cadwch Gymru'n Daclus a ddarparodd becynnau casglu sbwriel a Benthyd Cymru ac Egin a ddarparodd y mentora i sefydlu'r pod.

Mae Hwb Cymunedol Twyn wedi bod yn un o'r sefydliadau lleol cyntaf i gymryd rhan ac maent yn cael eu hysgogi i roi eitemau yn y pod i bawb eu defnyddio. Dywedodd cynrychiolydd o Hwb Cymunedol Twyn "mae'r Play Pod Chwarae yn lleihau costau storio eitemau mwy a ddefnyddir yn anaml iawn. Mae'n darparu gwell mynediad i chwarae i'r plant trwy rannu adnoddau. Rwy'n gobeithio, trwy geisiadau ar y cyd yn y dyfodol, y gall sefydliadau chwarae gael eitemau mwy o ansawdd gwell y gallant i gyd eu defnyddio".

I gael rhagor o wybodaeth am y Play Pod Chwarae, dilynwch y ddolen Eggseeds: Sustainable Growth and Community Engagement Solutions | EggSeeds

Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddog Datblygu Chwarae: enquiries.play@merthyr.gov.uk neu'r  Rheolwr Prosiect: sam@eggseeds.com

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni