Ar-lein, Mae'n arbed amser
Annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian Ffos-y-fran hyd at £½m
- Categorïau : Press Release
- 12 Medi 2019

Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol Merthyr Tydfil yn cael eu hannog i wneud cais am nawdd i fyny at £500,000 tuag at brosiectau sy’n elwa preswylwyr lleol.
Mae Panel Mawr Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-fran, a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn sicrhau fod grantiau rhwng £5,000 a £500,000 ar gael ar gyfer prosiectau sydd â phwyslais o ran addysg, yr amgylchedd neu hamdden ac sy’n gallu arddangos cymynrodd hirhoedlog i breswylwyr.
Ymhlith y rhai a dderbyniodd nawdd yn y gorffennol mae Grŵp Sylfaen Gellideg, a dderbyniodd dyfarniad o £500,000 tuag at adeiladu Canolfan Les newydd sbon ar safle’r hen glwb cymdeithasol. Mae cyfleusterau hyfforddi gan yr adeilad, a chanolfan ieuenctid ac Uned y Blynyddoedd Cynnar.
Rhaid i brosiectau fod wedi eu lleoli mewn ac o fudd i breswylwyr y fwrdeistref sirol ac yn diwallu un neu fwy o’r themâu yng Nghynllun Canolbwyntio ar y Dyfodol, Llesiant yn ein Cymuned, y Cyngor, sef:
- Y Dechrau Gorau i Fywyd – mae plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau i fywyd ac wedi eu taclu â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn ddysgwyr llwyddiannus ac yn unigolion hyderus
- Bywyd Gwaith – mae pobl yn teimlo wedi eu cefnogi i ddatblygu sgiliau sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion busnesau oddi fewn i seilwaith diogel sy’n datblygu sy’n gwneud Merthyr Tudful yn gyrchfan deniadol.
- Llesiant Amgylcheddol – mae cymunedau’n diogelu, gwella a hyrwyddo ein hamgylchedd a chefn gwlad
- Byw’n Dda - mae pobl wedi eu hymrymuso i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau, ble maen nhw’n ddiogel ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da
Cafodd rhaglen Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-fran ei sefydlu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y cyd â chwmni glofaol lleol Merthyr (De Cymru) Cyfyngedig, sy’n cyfrannu £1 am bob tunnell o lo a werthir o gynllun adennill tir Ffos-y-fran. Cafodd mwy na £5m ei ddyfarnu i amrywiaeth eang o grwpiau ac achosion ers i’r safle agor yn 2007.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Roeddem wrth ein bodd i allu rheoli Cronfa Buddion Cymunedol Ffos-y-Fran, sydd wedi cyfrannu gymaint at gynifer o’n clybiau a sefydliadau lleol na fyddai fel arall wedi gallu fforddio gwneud cynnydd.”
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r rownd derfynol o ddyfarniadau yw dydd Gwener, 27 Medi. Am wybodaeth bellach neu ffurflen gais, cysylltwch â Chydlynydd Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-fran ar 01685 725000 neu ffosyfran@merthyr.gov.uk