Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cydymdeimlad i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
- Categorïau : Press Release
- 09 Medi 2022
Ar ran pobl Merthyr Tudful, hoffem fynegi ein tristwch mawr o glywed y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Ochr yn ochr â gweddill y wlad, rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i’r Teulu Brenhinol ar yr adeg hon.
Mae baneri ar draws y Fwrdeistref Sirol yn chwifio ar hanner mast heddiw, a byddant yn cael eu codi i fast llawn yfory (dydd Sadwrn 10 Medi) am 11am ar gyfer y Cyhoeddiad Cenedlaethol yn Llundain.
Fe fyddan nhw’n dychwelyd i hanner mast am 2.45pm ddydd Sul (11 Medi) ar ôl i’r Cyhoeddiad gael ei ddarllen ar goedd yn lleol, a byddan nhw’n aros ar hanner mast tan 8am y diwrnod ar ôl angladd Ei Mawrhydi’r Frenhines.
Rydym yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i arwyddo llyfr cydymdeimlad sydd ar gael yn y Ganolfan Ddinesig o 3pm heddiw, ac o 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae llyfr cydymdeimlad electronig hefyd wedi’i agor ar y wefan Frenhinol: royal.uk/send-message-condolence
Gellir gosod teyrngedau blodau o dan y polion fflagiau o flaen y Ganolfan Ddinesig.
Bydd manylion y Datganiad Lleol yn cael eu cyfleu maes o law.
Ei Addoliad Maer Merthyr Tudful, y Cyng Declan Sammon
Arweinydd Cyng Geraint Thomas