Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghori am gynlluniau ar gyfer fferm wynt

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Tach 2022
Pen March wind farm

Cychwynnodd ymgynghoriad ddoe (Tachwedd 3) ar gynlluniau i leoli fferm wynt gyda hyd at chwe thyrbin i’r gogledd ddwyrain o Ferthyr Tudful, uwchben ffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465.

Mae’r cynhyrchydd ynni adnewyddadwy RWE yn cynnal ymgynghoriad tan Ragfyr 15, cyn gwneud cais ar Fferm Wynt Pen March. Bydd un o’r tair arddangosfa i’r cyhoedd ym Merthyr Tudful a Chaerffili yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais ar Dachwedd 26.

Bydd hefyd gyfle i gwmnïau lleol i wneud cais am gontractau wrth baratoi ac adeiladu’r safle.

Dwedodd y cwmni ei fod hefyd wedi ‘ymrwymo i gefnogi cymunedau sy’n cynnal projectau ynni adnewyddadwy trwy gynnig pecynnau budd cymunedol ar gyfer mentrau a phrojectau lleol’.

Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dir comin, sef Comin Merthyr a Gelligaer sy’n ymestyn o’r de i ffordd yr A465. Os byddant yn cael eu hadeiladu bydd y tyrbinau yn ymestyn i uchder o 180 metr.

Mae llyfryn gwybodaeth yn cael ei anfon i bob cartref o fewn radiws o 3km i’r safle gyda cherdyn adborth Rhadbost.

Mae gwybodaeth bellach a chyfle i wneud sylw ar wefan Fferm Wynt Pen March. https://penmarch.co.uk/

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni