Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymgynghoriad ar gynlluniau i wella darpariaeth i gerddwyr yng Ngaedraw
- Categorïau : Press Release
- 07 Gor 2021

Fel rhan o raglen Teithio Llesol dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr am gynlluniau i greu gwell amgylchedd wrth ddod i mewn i ganol y dref drwy wneud gwelliannau i gylchfan Caedraw ar y Stryd Fawr Isaf.
Byddai’r cais yn arwain at wella croesfan i gerddwyr ar gylchfan Caedraw a chreu chroesfan sebra newydd rhwng maes parcio’r Stryd Fawr a’r siopau.
Mae’r cynllun yn cynnwys lledaenu’r droedffordd bresennol o gylchfan Caedraw i’r groesfan newydd ar y Stryd Fawr Isaf.
Bydd marciau ffordd newydd hefyd ar y Stryd Fawr i gadw’r groesfan i gerddwyr yn glir.
Bydd yr ‘ynys hollti’ ar Avenue de Clichy yn cael ei lledaenu hefyd i leihau lled y gerbytffordd er mwyn i gerddwyr ei chroesi.
Bydd y gwaith hwn yn cydweddu’r cynllun a gynigiwyd ar hyd Avenue de Clichy a bydd gwelliannau i gerddwyr yn dilyn wrth gylchfan Tesco yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ar ôl derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Er mwyn dweud eich dweud am y cynigion, atebwch yr arolwg byr canlynol sy’n rhedeg tan ganol dydd ar 16 Gorffennaf 2021.
Dolen i’r arolwg yma.